Wrth i ddyddiau olaf yr Eisteddfod Genedlaethol agosáu, mae golwg360 wedi bod yn holi ambell wyneb cyfarwydd am eu profiadau gorau a gwaethaf yn Eisteddfodau’r gorffennol.

Ffion Dafis

“Fy mhrofiad gorau i mewn Eisteddfod, dw i’n meddwl, ydy’r gig gyntaf yn Eisteddfod Abergwaun. Roedd hi’n Eisteddfod fwdlyd, fwdlyd, fwdlyd ac roedd hi jyst yn horrible tu allan, ond es i i weld Jarman ar y bws i Hwlffordd.

Wna’i fyth anghofio hynna, mae o’n mynd i aros efo fi am byth.

Y profiad gwaethaf ydy cerdded mewn i garafán a ffeindio fy nghariad yn cusanu rhywun arall. Roeddwn i’n 16 ar y pryd, ac mi dorrais i fy nghalon.

Dafydd Morgan Lewis

Dw i wedi treulio wythnos ym mhob Eisteddfod ers 1970; mae hynna dros hanner can mlynedd. Dw i’n cofio’r profiadau cynnar fel pe baen nhw’n ddoe, mewn gwirionedd.

Efallai mai’r profiad mwyaf cyffrous ydy’r profiad o fod yn Eisteddfod Rhydaman yn 1970 am y tro cyntaf, a’r holl fywyd oedd ar y maes.

Be’ dw i’n gofio am hwnna oedd bod record Dafydd Iwan, ‘Peintio’r Byd yn Wyrdd’, yn atseinio dros y Maes, ac roeddech chi’n teimlo’ch bod chi’n rhan o ryw gyffro mawr oedd yn mynd ymlaen yng Nghymru ar y pryd.

Dyna’r profiad gorau dw i wedi’i gael mewn Eisteddfod; mynd i’r Eisteddfod am y tro cyntaf a theimlo’r cyffro yna.

Malan Fôn

Hoff atgof fi o Steddfod oedd pan oeddwn i’n fach, mynd o gwmpas yn prynu teganau a ffeindio freebies. Roedd yna aliens mewn jeli oeddet ti’n gallu’u prynu; rheiny oedd fy hoff bethau yn Steddfod.

A’r peth gwaethaf am Steddfod ydy’r hangovers.

Ashok Ahir

Yn 2018, roeddwn i’n gadeirydd y pwyllgor lleol yng Nghaerdydd, ac ar ôl y noson agoriadol roedd cyngerdd mawr yng Nghanolfan y Mileniwm. Aethon ni ma’s ac wedyn dechrau rhywbeth roedden ni’n ei alw’n Carnifal y Môr a mynd lawr o ffrynt Canolfan y Mileniwm lawr i’r dŵr.

Roedd yna arddangosfa arbennig ddelweddol gyda thân gwyllt a miwsig. I fi, hwnna yw’r darn dw i wastad yn ei gofio achos roedd y cyfuniad o bobol draddodiadol wedi dod i’r noson agoriadol, criw oedd yn rhan o Garnifal y Môr, a phobol oedd yn y Bae ar nos Sadwrn yn meddwl beth oedd yn digwydd.

Roedden ni i gyd yn cerdded lawr, ac roeddwn i’n meddwl, “dyna’r Eisteddfod!”

Llynedd, pan oedd pawb yn cwyno am y tai bach dros y penwythnos cyntaf, ond eleni mae dal cwynion ond ar lefel bach yn is.

Ashok Ahir

Owain Tudur Jones

Profiad gorau yn yr Eisteddfod, mae’n rhaid i fi feddwl yn ôl i ddyddiau ysgol yn perfformio cân actol a chyflwyniad dramatig. Fi oedd Bari Braster yn y cyflwyniad dramatig efo Ysgol y Garnedd, blynyddoedd lawer yn ôl rŵan ond dyddiau da.

Profiad gwaethaf, dw i’n mynd yn ôl flwyddyn i Dregaron, fe wnes i benderfynu aros am gwpwl o ddrincs ar ôl gweithio, ac yn anffodus doedd gen i’r unlle i gysgu felly noson o gwsg yn y car – roedd fy nghefn i mewn darnau am wythnosau wedyn.

Lleucu Roberts

Y gwaethaf bob tro ydy cerdded mewn i Faes yr Eisteddfod am y tro cyntaf a theimlo’r teimlad o nerfusrwydd o weld pobol a ddim eu hadnabod nhw.

Y teimlad gorau, bob blwyddyn ar y Maes, pan mae rhywun yn teimlo’n rhan o’r undod gwych yma. Mae o’n taro bob blwyddyn a hwnna yw’r teimlad gorau bob blwyddyn.”