Cai Llewelyn Evans sy’n cipio Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

Derbyniodd ei wobr ar lwyfan y Pafiliwn Mawr heddiw (dydd Iau, Awst 10) mewn seremoni arbennig.

Caiff y Fedal Ddrama ei chyflwyno am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Caiff y wobr ei rhoi am y ddrama sy’n dangos yr addewid mwyaf, ac sydd â photensial i’w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.

Mae Cai Llewelyn Evans yn derbyn y Fedal Ddrama (er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan) a £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli).

Caiff rhan o’r gwaith buddugol ei chyflwyno yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts.

Y beirniaid eleni oedd Steffan Donnelly, Seiriol Davies ac Elgan Rhys.

Eiliad o Ddewiniaeth

“Roedd o’n wych gweld 26 ymgais yn dod i law eleni ac roedd o’n bleser darllen ystod eang o syniadau cryf a phrofiadau diddorol,” meddai Steffan Donnelly wrth draddodi’r feirniadaeth.

“Roedd llawer o’r dramâu yn cydio yn fy nychymyg i a fy nghyd-feirniaid Seiriol Davies ac Elgan Rhys, yn cyflwyno cymeriadau cymhleth, sefyllfaoedd annisgwyl, a deialog brathog.

“Rhaid cyfaddef ei fod yn siomedig bod dipyn o’r dramâu ddim yn teimlo fel dramâu ar gyfer y llwyfan o ran strwythur, deialogi, profiad byw theatrig, a hyd yn oed fformat – felly ‘sŵn i’n annog sgwennwyr i ddarllen a dadansoddi dramâu, er mwyn datblygu eu crefft theatr yn benodol.

“Difyr oedd gweld bod sawl un o’r dramâu wedi eu gosod mewn cyfnod heriol – lle mae pwysau a chostau byw yn broblemau mawr ac mae ymddiried isel mewn awdurdodau.

“Mae ôl bysedd blynyddoedd o gamreolaeth wleidyddol yn San Steffan i’w weld yn glir, ond diolch byth bod ymateb i’r tristwch hyn, bod llawer o’r dramâu yn gwthio’n ôl gyda gobaith ac egwyddorion o garedigrwydd a phŵer trawsnewidiol cymuned.

Eiliad o Ddewiniaeth gan Wasabi ydi’r ddrama sy’n teimlo fwyaf cyflawn a chydlynol o’r 26.

“Mae’n sicr ac yn hyderus yn ei ffurf theatrig gydag uchafbwynt a datguddiad clir sy’n cymryd ni ar siwrne cymhleth ac emosiynol.

“Stori syml efo ffocws tynn ar berthynas Ceri, hogyn 12 oed niwroamrywiol a’i fam, Alys.

“Mae’r cymeriadau yn grwn, ac yn amlwg mae gwaith meddwl manwl wedi mynd mewn i adeiladu’r cymeriadau a’u perthynas a’i gilydd.

“Mae’n wych gweld prif gymeriad niwroamrywiol – a hwnnw’n bortread sensitif a chredadwy tu hwnt.

“Mae perthynas Ceri ac Alys yn hyfryd o dyner a chywrain gydag ambell foment yn dod â llwnc i wddw rhywun…

“Ar y cyfan roedd y digwyddiadau’n gyffrous a phwrpasol gyda’r ffrae fawr am dadolaeth yn byrlymu gydag ystyr a thensiwn arbennig.

“Mae gan y ddrama gynulleidfa amlwg mewn arddegwyr cynnar, ond mae yna rywbeth i bawb ynddi hefyd.

“Mae’r ddyfais o Ceri yn sylwebu ar bopeth fel pundit pêl droed yn effeithiol iawn i adlewyrchu ei deimladau a llais cymdeithas.

“Mae’n ddyfais sy’n uwcholeuo aralleiddio a phwysau ffitio mewn, ac yn archwilio’r celwyddau rydym yn eu dweud i’n gilydd a’n hunain.

“Mae Eiliad o Ddewiniaeth yn ddrama ddireidus, llawn pathos sydd fwyaf parod am y llwyfan. Llongyfarchiadau i’r dramodwyr i gyd.

“Ar ôl ystyried yn fanwl iawn a chryn siarad rhwng y tri ohonom ni… rhoddwn wobr y Fedal Ddrama 2023 i Eiliad o Ddewiniaeth gan Wasabi.”

Yr enillydd

Cafodd Cai Llewelyn Evans ei fagu ym mhentref Pontarddulais, ac mae ganddo dair chwaer, sef Hawys, Cari a Nia.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Bryniago, Pontarddulais, Ysgol y Strade, Llanelli, a Phrifysgol Aberystwyth, lle enillodd e radd MA mewn Llenyddiaeth Ôl-fodern Americanaidd, gan ysgrifennu traethawd hir ar ddramâu August Wilson.

Ar hyn o bryd, mae Cai yn byw yn Nhreganna, Caerdydd gyda’i bartner, Noriko.

O ran ei waith bob dydd, mae’n aelod o Wasanaeth Cyfieithu a Chofnodi y Senedd, gan weithio’n bennaf fel cyfieithydd ar y pryd.

Cyn hynny, bu’n byw am oddeutu degawd yn ninas Tokyo, lle bu’n olygydd / newyddiadurwr gyda phapur newydd y Japan Times, cyn symud i weithio ym maes gwasanaethau ariannol gyda chwmni Standard & Poor’s.

Er iddo ysgrifennu colofn hiwmor ac erthyglau eraill yn ystod ei gyfnod gyda’r Japan Times, y cam o symud yn ôl i Gymru oedd y sbardun i Cai roi cynnig ar ysgrifennu creadigol.

Cafodd ei brofiad cyntaf ar y radio, gan ysgrifennu cyfres o sgetsys a gafodd eu darlledu ar y rhaglen Sgript Slam Gomedi ar BBC Radio Cymru.

Yn dilyn hynny, ysgrifennodd ddwy ffilm fer gafodd eu cynhyrchu drwy raglen It’s My Shout a’u darlledu ar S4C, sef Clwb Plu Eira yn 2019 a Ffeithiau Amgen yn 2017.

Yn ystod yr un cyfnod, cafodd Cai ei ddewis i fod yn aelod o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru. Daeth y rhaglen hynod werthfawr a difyr hon i ben gyda darlleniadau byw o’r ddrama a ysgrifennwyd ganddo fel rhan o’r cynllun, sef Bwyd Ci, yn Theatr y Sherman a Chanolfan y Mileniwm. Ar hyn o bryd, mae’n cydweithio â Chwmni Theatr Bara Caws ar brosiect comedi.

Arwyr Cai ym maes sgriptio yw David Mamet, Nora Ephron ac Armando Iannucci. Ei arwyr personol yw ei dad, Haldon, a’i fam, Marian.

Mae modd prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd tan Awst 12.