“Roedd yr abuse gafodd y gwirfoddolwr bach oedd yn cyfeirio’r traffig oddi ar y gridiau yn gwbl afiach”.

Dyna farn Malan Wilkinson, colofnydd golwg360 sydd wedi bod yn lleisio barn ar y cyfryngau cymdeithasol am yr ymgyddiad tuag at y gwirfoddolwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.

Dywedodd fod y traffig yn araf iawn yn symud ddoe (dydd Mercher, Awst 9), a bod sawl person oedd yn ciwio yn anghwrtais iawn.

Mae’n teimlo bod y gwirfoddolwyr yn haeddu parch oherwydd eu gwaith dros y Gymraeg a’r Eisteddfod.

“Mae gwirfoddolwyr yr Eisteddfod yn gwneud gwaith arbennig!,” meddai Malan Wilkinson ar Rhwydwaith Menywod Cymru.

“Roedden ni’n gridlocked heddiw am tua thri chwarter awr yn y trydydd cae cyn i’r heddlu ddod a cheisio rhyddhau traffig ac roedd yr abuse gafodd y gwirfoddolwr bach oedd yn cyfeirio’r traffig oddi ar y gridiau yn gwbl afiach.

“Gan fwy nac un person. Dim esgus. Dim cyfiawnhad.

“Roedd hi’n boeth ac roedd o fel sawl gwirfoddolwr arall wedi gweithio’n ddi- baid ers oriau i hwyluso.

“I ni ac i’r Eisteddfod.

“I gynnal traddodiad a chyfrannu at ddiwylliant Gymraeg a Chymreig.

“Does yna neb yn haeddu’r fath anghwrteisi amharch a jest cael eu difrïo fel yna!”

‘Pobol yn wirion bost’

Heddiw (dydd Iau, Awst 10), fe fu golwg360 yn siarad â Richard Jones, gwirfoddolwr wrth y brif fynedfa, sy’n dweud nad yw pobol yn gwrando a’u bod yn gallu bod yn anghwrtais.

Yn ôl y gwirfoddolwr, sy’n gyn-blismon o’r Wyddgrug, dydy pobol heb fod yn gas efo fo yn bersonol, ond maen nhw wedi bod yn gas efo rhai gwirfoddolwyr eraill.

Dywed mai’r broblem yw nad yw pobol wastad yn gwrando wrth gael cyfarwyddiadau ar sut i gadw’n saff pan fo pobol yn ceisio cerdded a cheir yn ceisio dod i mewn ag allan.

Teimla fod y gwirfoddolwyr yn haeddu mwy o barch gan na fyddai’r Eisteddfod yn bodoli oni bai amdanyn nhw.

“Rwy’n gweithio fel gwirfoddolwr ers deunaw mlynedd,” meddai.

“Rwy’n gwirfoddoli i roi dipyn bach yn ôl i helpu’r Eisteddfod.

“Dydy pobol heb fod yn gas efo fi yn bersonol.

“Rwy’n gwybod bod pobol wedi bod yn gas efo rhai pobol.

“Bues i yn yr heddlu am 30 mlynedd, ac mae fy nghroen i reit dew ac mae fy nghefn i reit lydan ond mae pobol yn wirion bost.

“Dydyn nhw ddim yn gwrando.

“Os bysen nhw’n gwrando a dilyn ein harwyddion ni fyddai dim problem.

“Heini sydd eisiau mynd ac yn erbyn pethau.

“Dydy pobol ddim yn deall.

“Pan mae gennyt y sgwâr yma lle mae bysus eisiau dod mewn, lle mae’r bws gwennol yn dod mewn a throi a hyn a’r llall, mae pobol eisiau cerdded ar draws o’u blaenau.

“Rydych yn dweud wrthyn nhw, ‘Cadwch i’r ochr, cadwch tu ôl i’r bariers a dydyn nhw ddim yn gwrando.

“Dyna’r unig beth.

“Er mwyn eu saffrwydd nhw, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n saff rydym yn dweud wrthyn nhw gerdded tu ôl i’r rhain, ond na, maen nhw eisiau mynd ffordd acw.

“Bysa’r Eisteddfod ddim yn mynd heblaw bod yr holl wirfoddolwyr yma, na fysa?

“Mae’r Eisteddfod yn dibynnu arnom ni i fod yma i stiwardio.

“Beth mae stiward fod gwneud?

“Helpu pobol. Dyna’r cwbl rydym yn trio gwneud.

“Dydyn ni ddim yn cael dim tâl amdano, ond rydym yn ei wneud o’n gwirfodd.

“Os bysen nhw’n gwrando arnom ni, fydden nhw’n saffach.”

Mae golwg360 wedi gofyn i’r Eisteddfod am ymateb.