Mae dwy fyfyrwraig meddygaeth wedi dechrau podlediad i drafod profiadau rhai sydd â chyflyrau iechyd sy’n effeithio ar fenywod.

Cafodd pennod gyntaf Paid Ymddiheuro ei rhyddhau ddechrau Awst, a’r gobaith ydy dechrau sgwrs fwy agored am iechyd merched.

Er bod rhannau o bodlediad Elin Bartlett a Celyn Jones-Hughes yn cynnwys trafodaethau o safbwynt gwyddonol, y prif nod ydy trafod profiadau a theimladau.

Mae’r ddwy hefyd yn teimlo bod prinder adnoddau cyfrwng Cymraeg, ac mae Paid Ymddiheuro yn gyfle i drafod materion fel y mislif, y menopos, dulliau atal cenhedlu a syndrom ofarïau polysystig.

‘Dim digon o ymchwil’

Mae Celyn Jones-Hughes ac Elin Bartlett yn astudio i fod yn feddygon ym Mhrifysgol Caerdydd, ac o’r farn nad oes digon o ymchwil ar gyfer triniaethau i drin cyflyrau iechyd sy’n effeithio’n benodol ar fenywod.

“Dw i’n credu pe bai cyflyrau mor wael yn effeithio dim ond dynion y bysa gennym ni driniaethau gwell a llwybr at ddiagnosis gwell nag sydd gennym ni ar gyfer menywod. Ond efallai mai adlewyrchu fy ochr ffeministaidd ydw i!” meddai Celyn Jones-Hughes wrth golwg360.

“Mae’n warthus nad ydym â thriniaethau gwell. Mae’n brawf nag oes digon o ymchwil wedi’i wneud i gyflyrau megis PMDD, PCOS, endometriosis ac ati.

“Mae’r cyflyrau yma yn gymhleth tu hwnt a dydy dod o hyd i driniaeth berffaith ddim am ddigwydd dros nos, ond dw i’n credu bod lle i wella’r llwybr at ddiagnosis.”

Ar hyn o bryd, mae 1.5 miliwn o bobol yn y Deyrnas Unedig yn byw ag endometriosis, cyflwr sy’n aml yn achosi mislif poenus, ac ychwanegodd Celyn Jones-Hughes ei bod hi’n “ddyletswydd” arnyn nhw fel darpar feddygon i godi ymwybyddiaeth.

“Rydym ni mewn sefyllfa mor ffodus fel myfyrwyr meddygol,” meddai.

“Rydym mewn sefyllfa i allu newid pethau i’r dyfodol”

“Pan fynychais gynhadledd yn ddiweddar, rhannais fy mhryderon ynglŷn â gofal yn y sector iechyd benywaidd gydag uwch-feddygon ac aelodau o dimau rheoli ysbytai lleol, felly dw i’n ceisio defnyddio’r profiadau a gawn fel myfyrwyr meddygol i frwydro am newid.”

‘Sgwrs fwy agored’

Mae’r podlediad yn gwahodd gwesteion i rannu eu profiadau, ac mae’r ddwy yn hynod ddiolchgar o’u cyfraniad.

“Ni fysen ni’n bodoli heb y gwesteion sydd yn rhannu eu profiadau ar y podlediad,” meddai Celyn Jones-Hughes

“Rydyn ni’n gobeithio ein bod ni’n eu helpu nhw rywfaint hefyd, ac yn cyfleu wrth y gwrandawyr nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain, a’u hannog nhw i ofyn am gymorth os oes angen.”

Yn ôl Elin Bartlett mae angen sgwrs agored am gyflyrau sy’n effeithio ar fenywod, yn aml rhai all fod yn boenus, ac mae hi’n gobeithio y bydd y podlediad yn rhan o hynny.

“Drwy’r podlediad, rydym yn gobeithio rhoi platfform i fenywod allu rhannu eu profiadau a’u teimladau mewn amgylchedd diogel,” meddai Elin Bartlett wrth golwg360.

“Gobeithio bydd hyn yn dechrau sgwrs fwy agored eto o fewn cymdeithas a phwysleisio wedyn fod rhaid i bethau newid.

“Fel myfyrwyr meddygol, rydym yn deall pwysigrwydd gwrando ar ein cleifion.

“Nhw sydd yn byw â’r cyflyrau yma ac yn gwybod beth sydd angen arnynt yn well na neb.

“Mae gymaint o fenywod yn brwydro am ofal gwell ar hyn o bryd ar y gwefannau cymdeithasol, felly rydym am ddilyn eu hesiampl nhw a chyfleu fod meddygon y dyfodol yn eu cymryd o ddifrif.

“Gobeithio erbyn i ni gymhwyso fel meddygon bydd y sefyllfa wedi gwella. Ond tan hynny, rydym am geisio gwneud ein gorau i wrando ar straeon y menywod yma a’u cefnogi nhw drwy ein podlediad, ond hefyd fel myfyrwyr meddygol allan ar leoliad.”

Trafodaeth o safbwynt gwyddonol

Yn fyfyrwyr meddygol, mae ganddyn nhw rywfaint o gefndir meddygol i ychwanegu at y drafodaeth, ond mae’r ddwy yn pwysleisio y dylai unrhyw un sydd â gofidion am eu hiechyd fynd at eu meddyg teulu.

“Er nad ydym yn ddoctoriaid eto, mae gennym ni ddealltwriaeth o anatomi a ffisioleg benywaidd ac wedi cael rhywfaint o addysg ar iechyd merched yn y brifysgol,” meddai Elin Bartlett.

“Felly, mae agwedd o’r podlediad yn cynnwys trafodaethau o safbwynt gwyddonol ond ei brif nod yw trafod profiadau menywod.

“Rydym yn pwysleisio ym mhob pennod nad ydym wedi graddio eto a dal yn dysgu ein hunain ac felly os oes gan y gwrandawyr unrhyw ofidion, i fynd at eu meddyg teulu.”

Ymateb ‘anhygoel’

Hyd yn hyn, mae’r ymateb i’r podlediad wedi bod yn “anhygoel” a phawb wedi bod mor garedig.

“Rydym eisiau diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gyfres gyntaf,” meddai Elin Bartlett.

“Rydym yn ymwybodol bod y cyflyrau a’r profiadau sy’n cael eu trafod yn hynod bersonol, ac felly rydym yn gwerthfawrogi bod ein gwesteion wedi ymddiried ynom ni i rannu eu straeon nhw.”

Cafodd y bennod gyntaf ei rhyddhau ar y platfformau arferol ar Awst 4, ac mae penodau’r gyfres gyntaf yn cael eu rhyddhau bob dydd Gwener.

Bydd ail gyfres i ddilyn, ac mae’r ddwy yn edrych ymlaen at hynny.