Mae gwerth cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd gwaith Cymunedoli yn “amhrisiadwy o safbwynt cynnal cymunedau iach a chydnerth”, yn ôl un o’i sylfaenwyr.
A hwythau o dan yr un to ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan, roedd 26 o fentrau cymunedol mwyaf cydnabyddedig a llwyddiannus Gwynedd yn cynnig cyfle i eisteddfodwyr gael blas ar yr hyn mae gweithredu cymunedol yn ei olygu.
Mae ystod y mentrau yn eang – rhai yn fentrau yn seiliedig ar lefydd, megis Yr Orsaf ym Mhenygroes, Galeri Caernarfon, Cwmni Bro Ffestiniog a Phartneriaeth Ogwen, a mentrau eraill yn gweithio o fewn sectorau penodol megis y sector gofal a lles, lletygarwch, cludiant, ynni a thafarndai cymunedol.
Yn ystod yr wythnos, roedd pob diwrnod yn cynnig thema wahanol ar weithredu cymunedol gyda chyflwyniadau, sesiynau panel a gweithdai amrywiol ar sut i ddatblygu prosiectau a mentrau cymunedol hyfyw.
Cynnwys digidol
Yn ôl Sel Williams, un o sylfaenwyr Cymunedoli Cyf, mae potensial y rhwydwaith yn aruthrol.
“Be’ mae model Cymunedoli Cyf yn ei gynnig yw model arloesol a theg o weithredu ble mae cymunedau yn arwain ac yn rheoli’r gweithredu,” meddai wrth golwg360.
“Mae gwerth cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd ein gwaith yn amhrisiadwy o safbwynt cynnal cymunedau iach a chydnerth.
“Ein gobaith ni gyda Cymunedoli Cyf yw ein bod ni’n rhoi cynhaliaeth a chefnogaeth i’n gilydd ond ein bod ni hefyd yn ysbrydoli eraill o beth sydd yn bosib trwy weithredu lleol a thrwy gydweithio gyda’n gilydd.”
Y gymuned
Mae Cymunedoli yn fudiad o 26 o fentrau cymdeithasol yng Ngwynedd sydd wedi dod ynghyd i hyrwyddo mentergarwch cymunedol
Wrth siarad â golwg360, dywed Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen, fod mentergarwch cymunedol wrth galon gwaith Cymunedoli.
“Mae’r mudiad yn cynnwys pobol fel Partneriaeth Ogwen, Cwmni Bro Ffestiniog, Yr Orsaf, Galeri Caernarfon, Seren, Antur Waunfawr, Plas Carmel a Menter y Plu.
“Beth sy’n debyg rhyngom ni gyd ydy’n bod ni i gyd yn fudiadau budd cymunedol, felly rydym yn creu budd i’n cymunedau ni.
“Mae’n holl fodolaeth ni yna er mwyn gwasanaethu ein cymunedau ni, felly.”
Stondin Cymunedoli
Ar stondin Cymunedoli yn yr Eisteddfod, roedd deall mentrau cymdeithasol yn brif bwyslais oherwydd y diddordeb brwd ynddyn nhw.
“Yn ystod y lansiad, gwnaeth Sel Williams un o sylfaenwyr Cymunedoli, a hefyd Karel Williams sy’n arbenigwr ar yr economi sylfaenol, roi cyflwyniadau,” meddai Meleri Davies wedyn.
“Gwnaeth llawer ddod i’r lansiad, â dweud y gwir, oherwydd dw i’n meddwl bod llawer o ddiddordeb yn y maes datblygu cymunedol ar hyn o bryd.
“Mae yna gymaint o dafarndai cymunedol newydd yn codi.
“Roedd yna deimlad braf ofnadwy ar y stondin; roedd yn rili neis cael Menter yr Eagles yna, ac roedd y Tŵr yna, dwy fenter gymdeithasol newydd sydd newydd agor cynllun cyfranddaliadau cymunedol.
“Roedd stondin Cymunedoli yn le da iddyn nhw siarad efo eisteddfodwyr ac ennyn diddordeb yn eu prosiectau nhw.”
Swyddi newydd efo Cymunedoli
Drwy brosiect o’r enw Grymuso Gwynedd, mae swyddi newydd fel Arweinwyr Cymunedol wedi cael ei hysbysebu i feithrin mentergarwch cymunedol.
“Mae Cymunedoli rŵan wedi cydweithio efo Menter Môn, ac wedi llwyddo efo cais i redeg prosiect o’r enw Grymuso Gwynedd,” meddai Meleri Davies.
“Bydd hwnna’n gyfle i gyflogi chwe Arweinydd Cymunedol a Rheolwr Prosiect.
“Bydd y swyddi yna’n cael eu hysbysebu yn fuan.
“Y syniad ydy bod ni’n meithrin mentergarwch cymunedol a meithrin pethau’n lleol fel Arweinwyr Cymunedol.
“Mae hwnna’n mynd i fod yn cael ei ariannu drwy gronfa SPF sy’n cael ei weinyddu trwy Gyngor Gwynedd.”
Arbenigedd o ddrws i ddrws
Ymysg y mentrau cymunedol lleol ym mro’r Eisteddfod roedd y fenter gludiant cymunedol, O Ddrws i Ddrws.
Yn ôl Wil Parry, rheolwr y fenter sy’n cynnig cyfleoedd cludiant fforddiadwy i drigolion Llŷn, roedd digon o ysbrydoliaeth a gwybodaeth i’w gael ar y stondin drwy gydol yr wythnos.
“Mae yna gymaint o arbenigedd wedi ei feithrin gennym ni fel mentrau dros y blynyddoedd, ac mae’n hollol wych ein bod ni eleni’n gallu rhannu hynny efo eisteddfodwyr fydd gobeithio’n mynd nôl i’w hardaloedd nhw i ddatblygu mentrau cymunedol newydd.”
“Cymuned o gymunedau” a “Cryfder ar y cyd” yw rhai o arwyddeiriau rhwydwaith Cymunedoli, ac roedd y stondin eleni’n benllanw cydweithio agos dros gyfnod o flwyddyn, gyda’r mentrau bellach yn rhan o’r rhwydwaith newydd hon sydd yn cael ei lansio yn ffurfiol yr wythnos hon.
Mae’r mentrau sydd yn rhan o Cymunedoli yn cyflogi dros 450 o staff, ac mae gwerth asedau’r mentrau dros £43.2m.
Cafodd cwmni Cymunedoli Cyf ei sefydlu yn dilyn cyfres o sgyrsiau anffurfiol yn ystod haf 2022, gyda’r amcan i greu rhwydwaith i gefnogi ymdrechion ei gilydd, cryfhau’r achos dros gymunedoli ar draws y sir, a chodi capasiti lleol.
Bwriad Cymunedoli Cyf hefyd yw rhannu gydag eraill, ac mae’r cydweithio eisoes wedi esgor ar grantiau fydd yn helpu’r rhwydwaith i ffurfioli a chreu gwaith ar draws y sir.