Mae corff maethu Cyngor Gwynedd yn galw am fwy o bobol i ddod yn ofalwyr maeth gydag awdurdodau lleol.

Daw eu galwadau wrth i Lywodraeth Cymru anelu at ddileu elw preifat o wasanaethau plant mewn gofal.

Erbyn 2027, y nod yw y bydd gwasanaethau plant mewn gofal yn cael eu darparu gan sefydliadau cyhoeddus, elusennol neu ddielw – yn hytrach na sefydliadau preifat.

Ar hyn o bryd, mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud tu allan i Gymru yn gyfan gwbl.

I’r gwrthwyneb, mae 84% o blant sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdodau lleol yn aros yn eu hardal leol.

Mae’r newidiadau sy’n cael eu cynnig yn rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac yn blaenoriaethu gwasanaethau lleol.

Yn sgil hyn, mae Maethu Cymru Gwynedd, sy’n rhan o rwydwaith sy’n cynrychioli’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, yn galw am fwy o ofalwyr maeth drwy’r awdurdod lleol ac yn annog rhai sy’n maethu drwy asiantaethau er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol.

Buddion ieithyddol

Un sy’n maethu gyda’i hawdurdod lleol yng Ngwynedd ydy Angharad Clwyd o Lanuwchllyn ger y Bala.

Mae hi wedi maethu tua 12 o blant dros naw mlynedd, y cyfnod byrraf am noson a’r hiraf am 19 mis, ac mae hi’n gweld buddion ieithyddol a diwylliannol i blant wrth iddyn nhw gael aros yn eu cynefin.

“Rydyn ni wedi cael profiad positif o faethu efo ein hawdurdod lleol yng Ngwynedd,” meddai wrth golwg360.

“O ran maethu efo awdurdod lleol un o’r prif bethau yw bod y plant yn cael aros yn eithaf agos i’w cynefin, felly does dim rhaid iddyn nhw newid diwylliant nag iaith.

“Mae pob plentyn sydd wedi dod atom ni, heb law am un, yn rhugl yn y Gymraeg, mae hwnna wedi bod yn rhywbeth pwysig iawn.

“Mae plentyn gyda ni nawr, mae ei deulu i gyd yn siarad Cymraeg felly mae’n bwysig bod ni’n gallu cynnig hynny iddo fo.”

Cefnogaeth

Ychwanega fod yna rywun “ar ochr arall y ffôn” o fewn yr awdurdod lleol unrhyw bryd mae problem yn codi.

“Mae rhywun i allu cael cyngor oddi wrtho neu rywun sy’n gallu helpu ni, oherwydd rydyn ni wedi cael profiadau anodd yn y gorffennol,” meddai Angharad Clwyd.

“Mae’r bobol sy’n gweithio yn yr awdurdod lleol yn deall y plant, yn gwybod o le maen nhw’n dod, yn adnabod y teulu’n dda, wedi bod yn gweithio gyda’r teulu am amser cyn i’r plant ddod i ofal felly maen nhw’n deall.

“Dw i’n adnabod ychydig o bobol a ddechreuodd yn maethu gyda chwmni preifat ac wedyn symud i’r awdurdod lleol oherwydd bod nhw ddim yn derbyn gymaint o gefnogaeth yn un peth.”

‘Newid cadarnhaol’

Dywed y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Plant a Chefnogi Teulu, ei bod hi’n “hynod falch fod Cymru yn arwain y ffordd” wrth ddileu elw preifat o wasanaethau plant mewn gofal.

“Dyma gyfle heb ei ail i wneud newid cadarnhaol, er budd pobl ifanc sy’n derbyn gofal heddiw, ac yn y dyfodol,” meddai.

“Mae Gofal Maeth Awdurdod Lleol yn cynnig llawer o fanteision – o gefnogaeth, hyfforddiant i’r gymuned – yn bwysicaf oll, yr opsiwn i bobl ifanc aros yn lleol.”