Mae gwleidyddion ym Mhowys am i adolygiad i’r Ambiwlans Awyr gynnwys opsiwn i ehangu’r ddarpariaeth.
Daw galwadau Russell George a Craig Williams, yr Aelod o’r Senedd a’r Aelod Seneddol Ceidwadol dros Drefaldwyn, flwyddyn wedi i gynlluniau ddod i’r fei ynglŷn â’r bwriad i gau safleoedd yr ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon.
Fis Chwefror, fe wnaeth Ambiwlans Awyr Cymru gyhoeddi y bydd y ddau safle yn ddiogel tan 2026.
Wrth sgrifennu at Stephen Harrhy, y Prif Gomisiynydd, mae’r ddau wleidydd wedi ei annog yntau, a Llywodraeth Cymru, i wneud popeth posib i wneud gwelliannau yn hytrach na thoriadau i’r gwasanaeth.
Meddai’r ddau yn y llythyr: “Pan gafodd y cynigion gwreiddiol i gau safleoedd yr Ambiwlans Awyr yng Nghaernarfon a’r Trallwng eu cyhoeddi’r llynedd, roedd cryn bryder mewn rhannau gwledig o Gymru.
“Mae cymunedau’n gwybod pa mor hanfodol ydy gwasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru, ac maen nhw wedi codi arian mewn ffydd dda dros y blynyddoedd i gefnogi’r gwasanaeth.
“Cafodd pobol dros Ganolbarth Cymru, gan gynnwys ni, eu syfrdanu gan y cynigion annisgwyl.”
Cyllid ychwanegol?
Fis Mehefin, fe wnaeth Russell George holi Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, a fyddai Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i’r gwasanaeth.
Pe bai yna “achos clinigol dda dros gyllid ychwanegol” yna byddai’n rhaid ystyried hynny, meddai Eluned Morgan.
O ganlyniad, mae’r ddau Geidwadwr am i’r gwasanaeth gynnal adolygiad ehangach i edrych ar sut mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu.
Ar hyn o bryd, mae’r Ambiwlans Awyr yn derbyn peth o’i arian drwy elusen a’r hanner arall drwy Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.
“Yn amlwg, gyda chyllid ychwanegol, gellid gwneud gwelliannau i’r gwasanaeth, heb y posibilrwydd o gau neu symud lleoliadau,” meddai’r ddau.
“Rydyn ni’n deall bod gan Lywodraeth Cymru amrywiaeth o flaenoriaeth gwario, ond mae hi’n glir i ni, drwy sgyrsiau niferus, y byddai pobol leol Canolbarth a Gogledd Cymru yn gweld y gwasanaeth hwn fel blaenoriaeth uchel.”