Mae safon canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol a thechnegol Lefel 3 rywle rhwng yr hyn oedden nhw yn 2019 a 2022.

Dyma’r ail waith i fyfyrwyr gwblhau arholiadau haf sydd wedi’u marcio a’u graddio gan y byrddau arholi ers 2019. Mae’r canlyniadau cyffredinol yn uwch na 2019, ond yn is na 2022 lle rhoddwyd mesurau ychwanegol ar waith.

Gan gydweithio’n agos â chorff Cymwysterau Cymru, cyflwynodd CBAC fesurau cefnogol ar gyfer pontio’n ôl at y safonau cyn y pandemig.

Yn rhan o hyn, cafwyd gwybodaeth ymlaen llaw mewn perthynas ag asesiadau i liniaru’r amharu fu ar addysgu a dysgu oherwydd y pandemig.

Dylid pwyllo cyn cymharu â chanlyniadau unrhyw flynyddoedd blaenorol gan fod y dulliau asesu a’r amgylchiadau’n rhai gwahanol, meddai Cymwysterau Cymru.

Canlyniadau TAG Safon Uwch

Mae canlyniadau Safon Uwch Cymru yn dangos bod 97.5% o fyfyrwyr wedi ennill graddau A* – E.

Enillodd 13.5% o ymgeiswyr radd A*, ac enillodd 34.0% raddau A*-A.

Eleni yng Nghymru, roedd cyfanswm o 32,960 o gofrestriadau am arholiadau Safon Uwch, sy’n ostyngiad o 7.2% ar 2022, ond ar yr un pryd mae’r cofrestriadau’n gyson â 2019 (32,320).

Mathemateg yw’r pwnc mwyaf poblogaidd o hyd ar lefel Safon Uwch, ond mae’r patrwm cofrestru ar i lawr ar y cyfan yn y rhan fwyaf o’r pynciau.

Roedd y gostyngiad mwyaf yng nghofrestriadau’r pynciau canlynol: Astudiaethau Crefyddol (-234), Bioleg (-325), Cemeg (-336), Ffiseg (-393) a Hanes (-390).

Fodd bynnag, mae cynnydd wedi bod yn nifer y cofrestriadau ar gyfer Addysg Gorfforol (+81) a Cyfrifiaduro (+153).

Yng Nghymru, mae cyfradd gyffredinol y gwrywod a benywod yn llwyddo fwy neu lai yr un fath gyda 96.8% o gofrestriadau pwnc gan wrywod yn ennill graddau A* – E, o gymharu â 98.0% o gofrestriadau gan fenywod.

Fodd bynnag, mae’r benywod yn dal i wneud yn well na’r gwrywod ar y rhan fwyaf o bwyntiau graddau.

Yn achos A*-A mae’n 2.4 pwynt canrannol ac yn achos A*-C mae’n 5.2 pwynt canrannol.

Y gwrywod, fodd bynnag, sy’n rhagori ar y benywod ar A* gan 0.6 pwynt canrannol.

Canlyniadau Uwch Gyfrannol

Roedd 40,706 o gofrestriadau cyfnewid ar gyfer Uwch Gyfrannol yng Nghymru eleni, sy’n gynnydd o 6.8% o gymharu â 38,106 y llynedd.

Gradd A oedd 25.5% o’r holl graddau gafodd eu dyfarnu yng Nghymru eleni.

Canran yr ymgeiswyr yn ennill graddau A-E oedd 90.9%.

Ar lefel Uwch Gyfrannol, Mathemateg yw’r pwnc mwyaf poblogaidd o hyd.

Ar y cyfan, roedd cynnydd yng nghofrestriadau’r rhan fwyaf o bynciau, gyda’r cofrestriadau mwyaf ar gyfer y pynciau canlynol: Bioleg (+276), Cemeg (+352), Ffiseg (+412), Llenyddiaeth Saesneg (+258), Mathemateg (+672), a Mathemateg (Bellach) (+223).

Mae’r benywod yn rhagori ar y gwrywod ar bob pwynt gradd, gan 2.5 pwynt canrannol ar radd A, gan 7.8 pwynt canrannol ar raddau A-C a gan 3.1 pwynt canrannol ar raddau A-E.

‘Llongyfarchiadau’

“Ar ran y CGC, hoffwn longyfarch y myfyrwyr Safon Uwch a galwedigaethol ar yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni heddiw,” meddai Ian Morgan, cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cyd-Gyngor Cymwysterau.

“Mae’r ymdrech a’r dyfalbarhad a ddangoswyd ganddynt yn ystod eu hastudiaethau i’w gweld yn amlwg yn eu canlyniadau.

“Dymunwn y gorau iddynt ar gyfer yr hyn y byddant yn ei wneud nesaf o ran addysg bellach, hyfforddiant a chyflogaeth.

“Hefyd, hoffwn ddiolch i’r athrawon, y tiwtoriaid a’r swyddogion arholiadau sy’n gweithio yn yr ysgolion a’r colegau ledled y wlad.

“Mae eu gwaith caled nhw a’u holl gefnogaeth ac ymrwymiad wedi sicrhau llwyddiant y gyfres arholiadau eleni.

“Mae’r gefnogaeth gan y rhieni a’r gofalwyr wedi bod yn hollbwysig hefyd o ran sicrhau bod eu plant yn cyflawni’r canlyniadau hyn heddiw.”

Un arall sydd wedi datgan ei longyfarchiadau yw Jeremy Miles, Gweinidog Addysg Cymru.

“Mae’n ddiwrnod mawr i chi, ac yn benllanw blynyddoedd o waith caled, ac rwy’n gobeithio bydd heddiw yn wobr am eich holl ymdrechion,” meddai.

“Rydym yn gwybod bod y cyfnod yma wedi bod yn heriol.

“Ein nod wrth ddarparu cefnogaeth ychwanegol eleni oedd gwneud yn siŵr fod yr arholiadau’n deg, er gwaetha’r heriau rydych wedi’u hwynebu.

“I unrhyw un nad ydych wedi cael y canlyniadau yr oeddech eisiau, neu sy’n ansicr o’ch camau nesaf, peidiwch â bod yn rhy siomedig, a pheidiwch â rhoi amser caled i chi’ch hun.

“Mae digon o opsiynau o’ch blaen, gan gynnwys mynd i brifysgol trwy’r system glirio, prentisiaeth neu efallai ddechrau eich busnes eich hun.

“Mae Gyrfa Cymru yn fan cychwyn gwych er mwyn cael cyngor, a bydd eich ysgol neu goleg yno i’ch cefnogi hefyd.

“Mae ein Gwarant i Bobl Ifanc yn rhoi cyfle i bawb sy’n iau na 25 oed gofrestru mewn addysg neu hyfforddiant, i ganfod gwaith neu i ddod yn hunan gyflogedig, felly mae gennych chi lawer o ddewisiadau wrth fynd ati i ddilyn eich llwybr gyrfa.

“Rwy’n gobeithio bod staff a myfyrwyr yn falch o’u gwaith caled, yn mwynhau gweddill yr haf a’r cyfleoedd cyffrous sydd o’ch blaen.”