Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn wfftio rhybudd cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru y gall fod angen codi tâl mynediad ar gyfer amgueddfeydd unwaith eto yn sgil pwysau ariannol.

Yn ôl Alun Ffred Jones, gallai codi tâl mynediad wella’r hyn mae Amgueddfa Cymru’n ei gynnig ar hyn o bryd ac ehangu eu cynulleidfa.

Daw hyn ar ôl i adroddiad rybuddio y bydd cwymp yn safon yr hyn mae amgueddfeydd yn ei gynnig oni bai bod mwy o hyblygrwydd ar gael iddyn nhw.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw am greu cynllun i fynd i’r afael â’r sefyllfa, gan roi ystyriaeth i argymhellion yr adroddiad.

Un awgrym yw codi tâl mynediad ar bobol o’r tu allan i Gymru sy’n mynd i un o saith safle Amgueddfa Cymru.

Ers 2002, mae mynediad i bob amgueddfa’n rhad ac am ddim, fel gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Ond un syniad sy’n cael ei ystyried yw cadw mynediad yn rhad ac am ddim, ond codi tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd yn unig.

Roedd Alun Ffred Jones yn weinidog treftadaeth yn Llywodraeth glymblaid Cymru rhwng 2008 a 2011.

Mae’n cydnabod y gall tâl mynediad fod yn rhy “radical” er gwaetha’i awgrym fod angen “edrych am ddatrysiad arall”.

Codi tâl ar bobol o’r tu allan?

Mae Dr Dafydd Roberts, cyn-geidwad Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, yn argymell codi tâl ar bobol o’r tu allan i Gymru.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd fod rhaid cynnal mynediad am ddim i bobol yng Nghymru “fel mater o bolisi ac egwyddor”, ac y gellid cyflwyno cerdyn mynediad.

Daw hyn yn dilyn gostyngiad o 28% yn nifer yr ymwelwyr ag amgueddfeydd Cymru yn y flwyddyn hyd at 2023, er bod mwy nag 1.8m o bobol wedi ymweld rhwng Mawrth 2019 a Chwefror 2020.

Daw 80% o arian amgueddfeydd Cymru gan Lywodraeth Cymru.

‘Dim sgwrs’

“Yn sicr, ni ddylai fod sgwrs o gwbl am godi tâl ar bobol i ymweld ag amgueddfeydd yng Nghymru,” meddai Tom Giffard, llefarydd twristiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’r Llywodraeth Lafur eisoes yn rhoi pwysau aruthrol ar y diwydiant twristiaeth, sydd eisoes yn dangos 33% yn llai o ymwelwyr yng Nghymru yn 2022 o gymharu â 2019.

“Mae twristiaeth yn sector hanfodol i’n heconomi, gan gefnogi un ym mhob saith o swyddi Cymreig.

“Y peth diwethaf sydd ei angen ar Gymru yw rheswm arall i bobol beidio ag ymweld â hi.

“Mae angen i’r Llywodraeth Lafur roi’r gorau i’w treth dwristiaeth wenwynig a dod â phobol yn ôl i Gymru.”

Dywed Dawn Bowden, Gweinidog y Celfyddydau a Diwylliant, ei bod hi wedi gofyn i’w swyddogion “weithio drwy’r adroddiad terfynol gydag Amgueddfa Cymru i archwilio goblygiadau pob argymhelliad ac i ddatblygu cynllun gweithredu ac amserlen”.