Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Ngwent yn dweud bod “pwysau sylweddol” ar eu hysbytai wedi arwain atyn nhw’n ymbil ar deuluoedd i fynd â chleifion adref.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyhoeddi “neges frys” ar eu tudalen Facebook yn ymbil ar y rheiny sydd ag anwyliaid yn yr ysbyty ac sy’n methu cael eu rhyddhau, i ofalu amdanyn nhw yn eu cartrefi.

Mae’r bwrdd iechyd yn rhedeg Ysbyty’r Grange ger Cwmbrân, yn ogystal ag Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, ac ysbytai cymunedol llai ar draws y rhanbarth.

Ond dywedon nhw pan wnaethon nhw bostio’r neges toc ar ôl 4 o’r gloch ddydd Mawrth, Tachwedd 28, fod eu gwasanaethau “dan bwysau sylweddol”.

Mae’r apêl hefyd yn nodi fod aros yn yr ysbyty “yn rhy hir ar ôl triniaeth yn gallu cael effaith negyddol ar adferiad pobol”, ac fe ddywedon nhw, pan fo meddygon yn cytuno bod modd rhyddhau anwyliaid “ei bod yn well i’w hiechyd corfforol ac emosiynol eu bod nhw’n ymadfer yn eu cartrefi neu eu preswylfan arferol”.

Maen nhw hefyd yn gofyn i bobol rannu’r neges gyda theulu a ffrindiau.

“Mae ein gwasanaethau o dan bwysau sylweddol heddiw,” meddai’r neges, gafodd ei rhannu gan ddefnyddio graffeg ‘Neges Frys’.

“Nawr, yn fwy nag erioed, os oes gennych anwylyn yn yr ysbyty nad oes angen gofal meddygol arno fwyach ac sy’n gallu cael ei ryddhau, ystyriwch fynd â nhw adref a gofalu amdanynt.

“Gall aros yn yr ysbyty am gyfnod rhy hir ar ôl triniaeth gael effaith negyddol ar adferiad pobol.

“Pan fydd ein tîm meddygol wedi cytuno y gellir rhyddhau’ch anwylyd, mae’n well i’w hiechyd corfforol ac emosiynol eu bod yn gwella gartref neu’n fan preswylio arferol.

“Helpwch ni i wneud ein gwasanaeth yn fwy diogel drwy rannu’r wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu a chefnogi ein staff drwy ofalu am eich anwylyd yn y lle iawn.”

Pwysau’r gaeaf

Fis Medi, dywedodd y bwrdd iechyd fod rhyw 300 o gleifion yn barod i gael eu rhyddhau oedd yn eu gwlâu yn yr ysbyty bryd hynny – gan ddweud y gallai hynny gostio mwy nag £20m pe bai’r sefyllfa’n aros yr un fath am weddill y flwyddyn ariannol.

Mae pwysau’r gaeaf, o dywydd sy’n gwaethygu i fwy o salwch anadlol, fel arfer yn golygu y bydd nifer y cleifion yn yr ysbyty’n cynyddu dros fisoedd y gaeaf.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cyfeirio at y cleifion hynny nad ydyn nhw’n gallu symud allan o’r ysbyty er eu bod nhw’n ddigon iach i gael eu rhyddhau fel ‘trosglwyddiadau gofal wedi’u gohirio’ – mae’r term ‘llenwi gwlâu’ hefyd yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin, ac mae fel arfer yn ymwneud ag anallu awdurdodau lleol i ddarparu pecynnau gofal cymdeithasol, gan gynnwys ymweliadau â’r cartref, i’r cleifion hynny tu allan i’r ysbyty.

Llai o oriau o ofal

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Cyngor Sir Fynwy, un o’r pum awdurdod lleol yn ardal Gwent sy’n cael eu gwasanaethu gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan, adrodd fod nifer yr oriau gofal doedden nhw’n methu eu darparu yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf wedi gostwng o’r brig o 2,000 ond fod cyfartaledd yr oriau heb eu bodloni yn dal yn 834 yr wythnos.

Pan gyhoeddodd y bwrdd iechyd ganlyniad eu hadolygiad o gynlluniau rhyddhau ym mis Medi, fe wnaethon nhw gydnabod fod “heriau presennol â gofal cymunedol” yn golygu y gallai “cyfran fawr” o’r opsiynau fyddai meddygon fel arfer yn eu hystyried ynghylch rhyddhau “olygu gofyn i berthnasau ofalu am gleifion yn eu cartrefi tra eu bod nhw’n aros am becyn gofal”.

“Y realiti anffodus yw, os nad ydyn ni’n gweithredu nawr, y bydd y gorlenwi canlyniadol yng ngwlâu ysbytai’n cael effaith ar ddiogelwch y gofal cleifion y gallwn ni ei gynnig,” meddai Dr Andy Bagwell, dirprwy gyfarwyddwr meddygol y bwrdd iechyd.

“Rhaid cadw gofal ysbytai ar gyfer y rheiny sy’n sâl.

“Unwaith nad oes angen gofal gan yr ysbyty, y lle mwyaf diogel a gorau i glaf fod yw gartref neu mewn gofal preswyl priodol.

“Bydd angen cefnogaeth teuluoedd arnom er mwyn helpu’r cleifion i adael – os yw cleifion mewn cyflwr meddygol digonol i adael yr ysbyty, yna byddan nhw’n cael eu rhyddhau, ac mae’n bosib y bydd gofyn i aelodau’r teulu ddarparu mewnbwn hyd nes bod pecyn gofal yn dod ar gael.”