Mae gwerth economaidd yr Urdd wedi cynyddu 76% dros bum mlynedd.
Cyfrannodd Urdd Gobaith Cymru £44.9m at economi Cymru yn 2022-23, o gymharu â £25.5m yn 2017-18, yn ôl adroddiad newydd sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 29).
Ers 2017-18, mae trosiant y mudiad wedi cynyddu o £10.2m i £19.6m hefyd, sy’n gynnydd o 88%.
Roedd yr ymchwil gan Arad hefyd yn dangos bod 92% o’r unigolion gymerodd ran yng ngweithgareddau’r Urdd dros yr haf eleni yn “teimlo’n fwy positif am y Gymraeg”.
Dywed 88% eu bod nhw’n fwy tebygol o ddefnyddio’r iaith, a 73% eu bod nhw’n deall mwy am Gymru.
Fe wnaeth 89% adrodd eu bod nhw’n teimlo’n fwy hyderus mewn sefyllfaoedd cymdeithasol ar ôl cymryd rhan mewn gweithgareddau, a 93% yn fwy parod i gymryd rhan mewn gweithgareddau gydag eraill.
Fe wnaeth gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog, Glan-llyn a Chaerdydd gynhyrchu cyfanswm o £7.9m o werth economaidd o fewn eu cymunedau, medd yr ymchwil.
Roedd gweithgareddau chwaraeon yr Urdd yn gyfrifol am gynhyrchu £6.1m i economi Cymru, ac am bob £1 o incwm fe wnaeth Eisteddfod yr Urdd gynhyrchu gwerth o £6.96.
Cynhyrchodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023 £8.5m yn Sir Gaerfyrddin, tra bod ymwelwyr â’r Eisteddfod wedi gwario £5.8m ar nwyddau a gwasanaethau gan sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn y sir.
‘Dangos ein heffaith ar Gymru’
Mae’r Urdd yn “hynod falch” o’r ystadegau, yn ôl eu Prif Weithredwr Siân Lewis.
“Nod yr Urdd yw sicrhau profiadau a gweithgareddau drwy’r Gymraeg i ieuenctid Cymru ond mae’r adroddiad yma yn profi ein bod yn mynd uwchlaw ein hamcanion drwy greu swyddi a chyfoeth i economi Cymru,” meddai.
“Bellach gyda 362 o staff, yr Urdd yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn y Gymraeg, ynghyd â’r prif ddarparydd Prentisiaethau drwy’r Gymraeg oddi fewn y trydydd sector yng Nghymru.
“Mae gwerth economaidd o £44.9m yn dangos y gall sefydliad trydydd sector sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg lwyddo i greu effaith economaidd ynghyd â dylanwad cadarnhaol ar yr iaith.
“Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, rydym yn gwerthfawrogi bod angen i bob sefydliad sy’n derbyn arian cyhoeddus ddangos gwerth am arian ac rwy’n falch bod yr adroddiad hwn yn dangos yn glir ein heffaith ar Gymru.”
‘Meithrin gweithlu’r dyfodol’
Cafodd yr adroddiad ei lansio yng Ngwersyll yr Urdd yng Nghaerdydd heddiw, a dywed Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru, fod yr adroddiad yn “tystio i bwysigrwydd y Gymraeg, diwylliant a chwaraeon o ran ein heconomi”.
“Wrth i ni gefnogi pobol ifanc i gyflawni’r dyfodol uchelgeisiol maen nhw’n ei haeddu yng Nghymru, mae’r Urdd yn parhau i feithrin gweithlu’r dyfodol,” meddai.