Mae bron i ddau draean o bobol Cymru o blaid cynyddu’r oedran cyfreithlon ar gyfer prynu tybaco, yn ôl pôl piniwn diweddar gan ASH Cymru.

Dim ond 15% sy’n dweud eu bod nhw’n gwrthwynebu’r mesurau.

Daw hyn wedi i’r ddeddfwriaeth gael ei chyhoeddi yn Araith y Brenin ychydig wythnosau yn ôl.

Byddai’r ddeddfwriaeth yn golygu na fyddai unrhyw un sydd wedi’u geni ar ôl Ionawr 1, 2009 yn gallu prynu sigaréts yn gyfreithlon yn ystod eu bywydau.

O 2027 ymlaen, byddai’r oedran cyfreithlon ar gyfer prynu tybaco yn cynyddu blwyddyn bob blwyddyn, gan ddileu sigaréts yn gyfangwbl yn y pen draw.

Er bod y pôl yn dangos bod cefnogaeth gref i newid yr oedran cyfreithlon ymysg pobol yng Nghymru, does gan Lywodraeth Cymru mo’r pwerau i newid yr oedran cyfreithlon ar gyfer prynu alcohol a thybaco.

Bydd yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig basio’r ddeddfwriaeth er mwyn iddi ddod i rym.

Dros hanner ysmygwyr eisiau rhoi’r gorau iddi

Mae Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru, yn cefnogi cyflwyno’r ddeddf, gan ei bod hi’n credu y byddai’n achub bywydau.

“Nid oes unrhyw gynnyrch defnyddiwr arall yn dod â niwed dinistriol fel y mae tybaco ac mae ysmygu’n lladd dau o bob tri o’i ddefnyddwyr hirdymor,” meddai.

“Mae mwy na 5,500 o bobol yng Nghymru yn marw bob blwyddyn oherwydd ysmygu, ac mae tybaco yn costio mwy na £300m y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

“Ni fydd dim o hyn yn newid heb weithredu beiddgar.”

Mae ymchwil flaenorol gan ASH Cymru wedi canfod fod bron 15% o oedolion Cymru yn ysmygu.

Yn ôl yr un ymchwil, mae pobol sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig ddwywaith yn fwy tebygol o gychwyn ysmygu.

Mae dros hanner ysmygwyr Cymru yn dweud yr hoffen nhw roi’r gorau iddi ryw ben.