Mae saith o gynghorwyr Ceredigion, gan gynnwys yr arweinydd, yn ceisio gollyngiad (dispensation) er mwyn siarad am y posibilrwydd o godi trethi ail gartrefi ac eiddo gwag yn y sir, gan eu bod nhw’n berchen ar fwy nag un eiddo.
Mae gan Geredigion bremiwm o 25% ar ail gartrefi ac eiddo gwag ar hyn o bryd, tra bod gan siroedd cyfagos lefelau uwch – 100% yn Sir Benfro, 50% yn Sir Gaerfyrddin, a 75% ym Mhowys.
Bellach, mae rheolau trethi lleol newydd Llywodraeth Cymru’n rhoi’r hawl i awdurdodau lleol gasglu premiymau treth y cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor hyd at 300%.
Trafodaeth
Yn ddiweddar, cynhaliodd Ceredigion ymgynghoriad ar newidiadau posib i’r ffioedd hyn, ac fe ddaeth i ben ddiwedd mis diwethaf.
Cyn unrhyw drafodaeth gan y Cyngor ar unrhyw newidiadau posib i’r premiwm, mae’r saith cynghorydd wedi gofyn am gollynigadau i siarad a phleidleisio ar y pwnc – neu rannau ohono – pan gaiff ei ystyried gan aelodau.
Bydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau, fydd yn cyfarfod ar Ragfyr 4, yn clywed ceisiadau am ollyngiadau gan y cynghorwyr Bryan Davies (arweinydd), Ifan Lloyd Davies, Catrin M S Davies, Marc Davies, Meirion Davies, William Wyn Evans a Rhodri Evans.
Bryan Davies
“Dw i eisiau bod yn gwbl dryloyw â’r cyhoedd,” meddai Bryan Davies yn ei gais.
“Dw i’n cyd-berchen ar dŷ sy’n cael ei rentu’n hirdymor gan deulu yn Llanbed.
“Dydy’r tŷ ddim wedi cael ei ddefnyddio fel ail gartref nac fel llety gwyliau, ac mae’r tenantiaid yn talu treth y cyngor ar y tŷ.”
Ifan Lloyd Davies
“Mae gen i eiddo yng Ngheredigion dw i’n eu rhoi ar rent i denantiaid llawn amser, a llety gwyliau,” meddai Ifan Lloyd Davies.
“Ond dydyn nhw ddim yn ail gartrefi.
“Dw i’n credu y dylwn i gael gollyngiad, gan fy mod i’n teimlo y galla i gynnig barn gytbwys a rhesymeg i’r drafodaeth a’r penderfyniad.
“Dw i’n teimlo nad yw’r egwyddor yn wahanol i osod y dreth gyngor flynyddol dw i’n rhan ohoni bob blwyddyn.”
Catrin M S Davies
Gofynnodd Catrin M S Davies am ollyngiad i siarad a phleidleisio ar lety gwyliau ac ail gartrefi.
“Does gen i ddim buddiant personol mewn llety gwyliau,” meddai.
“Dw i wedi cael gollyngiad i siarad ar fater eiddo gwag, ond nid i bleidleisio gan fy mod i’n berchen ar eiddo gwag.
“Ond dw i ddim yn berchen nac yn elwa ar lety gwyliau, a does neb yn fy nheulu’n elwa ar lety gwyliau chwaith.
“Hoffwn wahaniaethu rhwng y ddwy bleidlais.
“Hynny yw, does gen i ddim buddiant o ran llety gwyliau, felly dw i’n gofyn am ollyngiad i siarad a phleidleisio ar y mater penodol hwnnw.”
Marc Davies
“Hoffwn gyfleu fy mod i’n berchen ar eiddo sy’n cael eu rhoi ar denantiaeth hirdymor,” meddai Marc Davies.
“Fodd bynnag, dw i ddim yn credu bod hyn yn rhagfarnu yn fy erbyn wrth siarad yn y Cyngor llawn.”
Meirion Davies
“Dw i wedi bod yn rhedeg llety gwyliau ers deng mlynedd ar fy fferm, gyda chais cynllunio sydd â chymalau at y diben hwnnw,” meddai Meirion Davies.
“Mae wedi’i eithrio o dan cymhwysedd 182 diwrnod.
“Fel perchennog llety gwyliau, hoffwn allu siarad a phleidleisio o ran fy musnes.”
William Wyn Evans
“Dw i’n berchen yn rhannol ar eiddo dw i ddim yn byw ynddo,” meddai William Wyn Evans.
“Mae’n cael ei roi ar osod neu rent i denant.
“Rywbryd yn y dyfodol, bydd y Cyngor yn ystyried y premiwm treth gyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.
“Dw i’n credu y byddai unrhyw eiddo dw i’n berchen arnyn nhw yn cael eu heffeithio gan y drafodaeth hon; fodd bynnag, gan nad yw’r canllawiau’n glir o ran a yw fy eiddo’n cwympo i mewn i’r categorïau hyn.
“Dw i’n credu ei fod yn fwy tryloyw fy mod i’n gwneud cais am ollyngiad er mwyn bod yn saff.”
Doedd manylion cais Rhodri Evans ddim ar gael yn y papurau gafodd eu cyhoeddi cyn y cyfarfod.
Ar gyfer cyllideb 2023-24, roedd yna 33,856 o eiddo i godi tâl arnyn nhw yng Ngheredigion – 1,697 ohonyn nhw’n ail gartrefi a 592 yn eiddo gwag, gyda’r ddau ddosbarth yn cynrychioli 6.8% o’r holl eiddo.