Mae mwy a mwy o fenywod ifainc yng Nghymru’n wynebu gwahaniaethu yn y gweithle, yn ôl ymchwil newydd.

Mae ystadegau’r Young Women’s Trust yn dangos bod bron eu hanner (48%) wedi dioddef rhyw fath o wahaniaethu, o gymharu â’r 43% ddywedodd yr un fath y llynedd.

Wrth ateb eu holiadur blynyddol, dywedodd 22% o reolwyr adrannau Adnoddau Dynol cwmnïau eu bod nhw’n ymwybodol o achosion o wahaniaethu yn erbyn menywod yn y gweithle dros y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd bron cymaint (21%) yn cytuno bod ymddygiad rhywiaethol yn dal i fodoli o fewn eu sefydliadau, yn ôl yr adroddiad.

Fe wnaeth yr elusen holi 4,000 fenywod ifainc, 1,000 o ddynion ifainc a bron i 1,000 o bobol sy’n gwneud penderfyniadau o fewn adrannau Adnoddau Dynol dros Gymru a Lloegr.

Dywedodd 10% o’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau eu bod nhw’n meddwl bod dynion yn fwy addas ar gyfer swyddi rheoli uchel na menywod, a dywedodd 12% eu bod nhw’n gyndyn o gyflogi menyw os ydyn nhw’n meddwl y gallai fynd yn ei blaen i ddechrau teulu.

Mae’r ymchwil yn dangos bod tâl isel yn bryder mawr i fenywod ifainc, gyda 51% yn dweud bod eu sefyllfa ariannol yn anghyfforddus, o gymharu â 40% o ddynion ifainc.

‘Ambell sylw cas’

Dywed Emily, sy’n gweithio ym musnes twristiaeth ei theulu yn y gorllewin, nad ydy cyflogwyr yn ei chymryd o ddifrif yn sgil ei endometriosis.

“Mae pobol yn cysylltu fy nghyflwr iechyd cronig â phoenau mislif, ac yna mae’n cael ei anwybyddu neu dydyn nhw ddim yn ei gymryd o ddifrif, ac maen nhw’n cyfeirio ati fel problem menywod,” meddai.

“Roedd cael gyrfa yn bwysig i fi, ond dw i wedi cerdded i ffwrdd o sawl swydd oherwydd bod gen i broblemau iechyd cronig.

“Roedd yna ambell sylw cas, ac weithiau roeddwn i’n teimlo fy mod i’n bod yn wan pan oeddwn i’n gofyn am addasiadau yn y brifysgol.

“Dyw e ddim yn deimlad braf.”

Mae menywod o leiafrifoedd ethnig yn wynebu gwahaniaethu ar sawl lefel, medd yr ymchwil, ac o ganlyniad maen nhw’n fwy tebygol o boeni ynglŷn â chyflog eu swyddi (60% o gymharu â’r cyfartaledd o 55%), sicrwydd swyddi (46% o gymharu â’r cyfartaledd o 36%) a diffyg cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfa (57% o gymharu â 49%).

‘Newid pethau’

Drwy weithio â menywod ifainc, mae’r Young Women Trust wedi creu maniffesto, gan alw ar lywodraethau a chyflogwyr i ddilyn y camau canlynol:

  • Sicrhau cyflogau teg a chyfartal
  • Cael gwared ar rwystrau annheg sy’n atal pobol rhag cael gwaith, megis drwy weithio hyblyg
  • Cefnogi menywod ifainc i ddatblygu eu gyrfa
  • Cynnig gwell sicrwydd gyda chyfyngiadau ar gytundebau sero awr
  • Rhoi stop ar wahaniaethu drwy well prosesau adrodd achosion, mwy o atebolrwydd ar ran cyflogwyr a gwell cefnogaeth i bobol sy’n dioddef gwahaniaethu

“Ychydig fisoedd yn ôl, roedden ni’n adrodd fod costau byw cynyddol yn cael effaith anghymesur ar fywydau menywod ifanc – ac mae’r ystadegau diweddaraf hyn yn dangos pam fod hynny’n digwydd, gyda gwahaniaethu eang yn arwain at fwlch incwm,” meddai Claire Reindorp, Prif Weithredwr elusen y Young Women’s Trust.

“Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n anodd i fenywod ifanc gael y swyddi maen nhw eisiau yn sgil rhwystrau fel diffyg gweithio hyblyg a gofal plant fforddiadwy, ond unwaith maen nhw’n mynd i’r gweithle, mae gwahaniaethu a diffyg cefnogaeth i helpu nhw i ddatblygu’n arwain at fwy o rwystrau ar yr ysgol yrfa.

“Gall gwleidyddion a chyflogwyr wneud llawer mwy i newid pethau, a dydyn nhw ddim yn bethau anodd.”