Bydd rhaglen fydd yn gweld cyfleuster gofal plant Cymraeg mewn ysgol newydd yn Sir y Fflint yn cael ei thrafod gan gynghorwyr.

Bydd y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn cyfarfod ddydd Iau (Tachwedd 30) i edrych ar gynnydd y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi grantiau cyfalaf ar gael i gynghorau at ddibenion darpariaeth gofal plant rhwng 2019-2022, yn ôl adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i gynghorwyr.

Fe wnaeth Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo nifer o brosiectau ar gyfer ton gyntaf buddsoddiad mewn cyfleusterau gofal plant mewn ysgolion ar draws y sir.

‘Prosiect sylweddol’

“Mae’r Cabinet a Llywodraeth Cymru hefyd eisoes wedi cymeradwyo £1.2m fel rhan o ail don o fuddsoddiad Grant Gofal Plant i gynnwys cyfleuster gofal plant Cymraeg newydd ar gyfer yr Ysgol Croes Atti newydd,” medd yr adroddiad.

“Cafodd y prosiect hwn ei ddwyn gerbron er mwyn cyd-daro â datblygiad yr ysgol newydd er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn achub ar y cyfle i gael cyfleuster gofal plant cynhwysfawr ar yr un safle â’r ysgol newydd.

“Yr amcan yw gwella darpariaeth addysg Gymraeg yn ardal y Fflint – sy’n llinyn allweddol o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor.

“Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau erbyn Medi 2025.”

O ran yr ysgol Gymraeg newydd sydd i fod i ddisodli’r Ysgol Croes Atti bresennol yn y Fflint, mae’r adroddiad yn ei ddisgrifio fel “prosiect sylweddol sy’n cefnogi’r Cynllun Strategol Addysg Gymraeg”, gan mai dyma’r ysgol Gymraeg newydd gyntaf i’w hadeiladu gan y Cyngor ers ei sefydlu yn 1996.

Mae disgwyl hefyd i’r prosiect ei gwneud hi’n ysgol Carbon Sero Net.

“Hefyd wedi’i gynnwys yn y prosiect mae cyfleuster sy’n sefyll ar ei ben ei hun fydd yn darparu gofal plant cynhwysfawr, gofod ar gyfer addysg gymunedol i oedolion ac adnodd trochi i helpu’r symudiad o’r ysgol gynradd i ysgol uwchradd Gymraeg.”

Cynnydd

Mae’r cynnydd fel a ganlyn, yn ôl yr adroddiad:

  • Caniatâd cynllunio wedi’i roi fis Ionawr 2022
  • Ymgysylltu â chontractiwr Dylunio ac Adeiladu
  • Achos Busnes llawn wedi’i gymeradwyo fis Awst 2023
  • Gweithgareddau adeiladu i ddechrau yn 2023
  • Symud i mewn i’r ysgol – Medi 2025

Mae nifer o brosiectau eraill ar y gweill er budd ysgolion eraill ar draws y sir, fydd yn cael sylw yn ystod y cyfarfod hefyd.