Mae Porthladd Rhydd Caergybi gam yn nes, ar ôl i Bwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn gymeradwyo achos busnes amlinellol.

Y Cyngor Sir a Stena Line sy’n gyfrifol am ddatblygu prosiect Porthladd Rhydd Ynys Môn, a bydd yr achos busnes amlinellol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yr wythnos nesaf.

Bydd ardal ‘Porthladd Rhydd Ynys Môn’ yn cwmpasu Caergybi, Parth Ffyniant Ynys Môn yn Rhos-goch, a chanolfan wyddoniaeth ac arloesi M-Sparc yn y Gaerwen.

Yn wahanol i’r drefn arferol, does dim rhaid i gwmni mewn porthladd rhydd dalu unrhyw drethi wrth fewnforio nwyddau neu ddeunyddiau crai, gan eu bod nhw y tu allan i ffiniau tollau gwlad.

Hefyd, gall y cynhyrchion sy’n cael eu mewnforio i’r porthladdoedd rhydd gael eu defnyddio i greu cynnyrch newydd, ac wedyn mae modd ei allforio dramor heb dalu unrhyw drethi.

‘Cam pwysig’

Mae’r penderfyniad, gafodd ei wneud ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 28), yn “benllanw misoedd o waith caled”, yn ôl Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn.

“Gyda hyn byddwn yn cyflwyno’n achos busnes amlinellol i’w gymeradwyo gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru,” meddai.

“Dyma gam pwysig ymlaen tuag at ryddhau cyllid hanfodol gan y Llywodraeth; gwireddu’r prosiect Porthladd Rhydd a sicrhau manteision economaidd ar gyfer ein Hynys.”

Mae gan y cais Porthladd Rhydd ddwy brif thema, sef:

  • cynyddu masnach drwy’r porth, ac adfer y “Bont Wlad” rhwng Iwerddon â thir mawr Ewrop
  • denu buddsoddiad i safleoedd allweddol – gan y sector ynni carbon isel yn benodol

‘Gwireddu potensial economaidd’

Wrth ymateb, dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru ac Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, ei fod yn falch o’r “cam cadarnhaol” ymlaen.

“Dyma’r cam nesaf i wireddu potensial economaidd y prosiect porthladd rhydd yr ydym wedi gweithio’n galed i’w sicrhau,” meddai.

“Mae’n hanfodol bod y llywodraethiant cywir yn ei le er mwyn sicrhau bod y cyfleoedd a ddaw ohono yn cyd-fynd ag anghenion yr ynys a’n dyheadau a’n diddordebau ni fel cymuned.

“Edrychaf ymlaen at gynnal digwyddiad yn y Senedd yn yr wythnosau nesaf, fydd yn gyfle i Aelodau dderbyn y newyddion diweddaraf am gynnydd y prosiect.”