Mae Jeremy Miles wedi cyhoeddi cynlluniau i wella llythrennedd a rhifedd yng Nghymru.

Daw’r cyhoeddiad gan Weinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru fel rhan o’r ymdrechion ehangach i fynd i’r afael ag effeithiau’r pandemig Covid-19 ar ysgolion.

Cyn y pandemig, roedd Cymru yn gwneud cynnydd cadarnhaol o ran llythrennedd a rhifedd, yn ôl y Llywodraeth.

Ond daeth yn amlwg fod effeithiau’r pandemig wedi dadwneud rhywfaint o’r cynnydd hwn, ac mae rhai o’r effeithiau’n cael sylw mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar gan y Llywodraeth.

Cymhwyso sgiliau

Mae cynllun mathemateg newydd wedi’i ddatblygu, gyda’r nod o godi safonau.

Bydd ffyrdd newydd difyr o ddysgu yn cael eu datblygu fel rhan o’r cwricwlwm newydd, i fagu hyder dysgwyr.

Bydd grŵp tystiolaeth, cyngor ac ymchwil newydd yn cael ei sefydlu, yn cynnwys arbenigwyr mathemateg o Gymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt, ac fe fydd yn rhoi cyngor i’r partneriaid fydd yn creu pecyn dysgu proffesiynol wedi’i wneud i Gymru.

Mae Ysgol Coedcae yn Llanelli wedi datblygu ffyrdd atyniadol o addysgu llythrennedd ariannol.

Bu Jeremy Miles mewn gwers fathemateg oedd yn canolbwyntio ar addysg ariannol yn yr ysgol, i weld sut mae dysgwyr yn cael eu dysgu i gyfrifo canrannau a chymhwyso hyn i gyfrifo taliadau ar fenthyciadau gan gwmnïau benthyciadau llog uchel.

“Fel athrawon, mae dyletswydd arnom ni i baratoi ac addysgu pobol ifanc ar gyfer bywyd y tu allan i’r ystafell ddosbarth, ac i roi’r sgiliau angenrheidiol iddyn nhw ar gyfer ymdopi â byd o ansicrwydd ariannol,” meddai Sam Terry, Pennaeth Mathemateg Ysgol Coedcae.

“Rydyn ni yn Ysgol Coedcae yn defnyddio’r cwricwlwm newydd i greu grŵp o ddysgwyr sy’n hyderus yn eu sgiliau rhifedd ac sy’n gallu torri’r cylch o bobol sy’n dweud, ‘Dw i ddim yn gallu gwneud mathemateg’.”

Mae’r pecyn cymorth llafaredd a darllen a gafodd ei gyhoeddi’n gynharach eleni wedi’i ddiweddaru i roi mwy o eglurder ynghylch rôl sgiliau cyfathrebu cynnar a ffoneg systematig, fel strategaethau profedig ar gyfer datblygu sgiliau darllen hanfodol.

Mae’r pecyn cymorth yn darparu ystod o wybodaeth ac adnoddau fydd yn galluogi ysgolion i ddatblygu ac ymgorffori eu dull darllen a llafaredd eu hunain.

‘Elwa ar holl fanteision y cwricwlwm’

“Mae cymorth clir i’n pobol ifanc gyda llythrennedd a rhifedd yn hanfodol o ystyried effaith barhaus y pandemig, er mwyn iddyn nhw allu elwa ar holl fanteision y cwricwlwm,” meddai Jeremy Miles.

“Mae gwaith rhagorol yn digwydd mewn ysgolion ledled Cymru, fel y gwersi addysg ariannol a welais yn Ysgol Coedcae.

“Nod ein cynlluniau gweithredu yw sicrhau y gall pob dysgwr elwa ar addysgu mor atyniadol.”

Mae’r cynlluniau hyn yn rhan o becyn cymorth ehangach i ysgolion, sydd wedi’i ddarparu i liniaru effeithiau’r pandemig, fel y Rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau.

Mae gwerthusiad diweddar o’r rhaglen yn dangos effaith fuddiol y cyllid sydd wedi’i dargedu at y rhai mae Covid wedi effeithio fwyaf arnyn nhw.

Roedd hyn yn cynnwys cynyddu capasiti staff yn y blynyddoedd cynnar ac mewn lleoliadau ysgolion.