Mae’r gwrthbleidiau wedi beirniadu cynllun economaidd newydd Llywodraeth Cymru, gan ddweud nad yw’n “cynnig dim byd newydd”.
Cafodd y cynllun ei gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 28), ac roedd yn ystyried pedair blaenoriaeth, sef:
- gwireddu cyfleodd sero net, ac ymgysylltu â phobol a busnesau i symud at sero net.
- cefnogi pobol ifanc i gael dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru, a blaenoriaethu eu sgiliau a’u creadigrwydd.
- partneriaethau cryfach i greu rhanbarthau cryfach a rhoi hwb i’r economi bob dydd
- buddsoddi ar gyfer creu Twf – gweithio mewn partneriaeth i ganolbwyntio ar gryfderau er mwyn hybu buddsoddiad a thwf.
‘Hynod siomedig’
Wrth ymateb i’r cynllun, dywed Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, fod datganiadau Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, yn “denau ar fanylion polisi, targedau mesuradwy a materion eraill o sylweddol”.
“Mae’r un yma’n hynod siomedig o ystyried yr edrych ymlaen a’r ffordd y maen nhw wedi’i frandio fel cynllun mawr y Llywodraeth ar gyfer yr economi,” meddai.
“Wrth osod cynigion a rhethreg y Gweinidog yn erbyn ei record ar yr economi, mae’r darlun yn gwbl wahanol i’r un mae e’n ei baentio.
“Dan ei warchodaeth, mae’r Gweinidog wedi corlannu economi Cymru o un golled swyddi i’r llall, yn cynnig ei gydymdeimladau, ond heb unrhyw ddatrysiadau gwirioneddol, dim cynllun i newid y tueddiad, a dim uchelgais i Gymru.
“Tata, tua 3,000 o swyddi mewn perygl, o bosib; 2 Sisters yn Llangefni, dros 700 o swyddi wedi mynd; Avara Food yn y Fenni, colli 400 o swyddi; Tillery Valley Foods, colli 250 o swyddi; Biomet ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 540 o swyddi mewn perygl ac UK Windows and Doors yn y Rhondda, 500 o swyddi mewn perygl.
“Dan reolaeth Llywodraeth Cymru, mae cyflwr economi Cymru’n fwy brau nag erioed – ac roedd y bar yn isel iawn i ddechrau.
“Mae’n ymddangos fel na all y Llywodraeth weithredu nes ei bod hi’n rhy hwyr.”
Mae Luke Fletcher hefyd yn crybwyll fod y bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a’r cyfartaledd dros y Deyrnas Unedig wedi ymestyn ers datganoli yn 1997, a bod allbwn economaidd Cymru yn waeth na holl rannau Lloegr a gweddill gwledydd Prydain.
“Drwy fethu â mynd i’r afael â hyn, mae cyflogau Cymru a’r sgiliau yn y wlad wedi aros yn isel,” meddai.
“Mae cymaint wedi cael ei wthio ar Gymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a San Steffan, a hynny er gwaeth, ond mae’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi cael bron i chwarter canrif i gryfhau economi Cymru – ond maen nhw wedi methu’n ôl pob un llinyn mesur, i bob pwrpas.”
‘Rhedeg allan o syniadau’
Dywed Paul Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, nad oedd y datganiad heddiw’n dweud unrhyw beth newydd am sut mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cefnogi na datblygu’r economi.
“Dydyn nhw’n ddim byd ond pedwar pwynt bwled wedi’u copïo a’u gludo o strategaethau blaenorol,” meddai.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn uchelgeisiol drwy greu’r amodau ar gyfer twf, fel mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud yn Lloegr drwy ostwng cyfraddau busnes a diwygio’r system gynllunio i helpu busnesau.
“Mae’r Blaid Lafur wedi bod mewn grym yng Nghymru ers dros ddau ddegawd ac mae’r cyhoeddiad heddiw’n dangos eu bod nhw wedi rhedeg allan o syniadau.”