Mae cynlluniau Gweinidog Economi Cymru ar gyfer creu economi gryfach yn cynnwys canolbwyntio ar dwf gwyrdd a swyddi lleol.

Bydd Vaughan Gething yn amlinellu ei gynlluniau i gyflawni Cenhadaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer economi gryfach mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 28).

Y bedair blaenoriaeth yn y cynllun fydd:

  • Pontio cyfiawn a Ffyniant Gwyrdd – gwireddu cyfleodd sero net, ac ymgysylltu â phobol a busnesau i symud at sero net.
  • Platfform ar gyfer pobol ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant – cefnogi pobol ifanc i gael dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru, a blaenoriaethu eu sgiliau a’u creadigrwydd.
  • Partneriaethau cryfach i greu rhanbarthau cryfach a rhoi hwb i’r economi bob dydd – gweithio gyda phob rhanbarth i gytuno ar gyfres lai o flaenoriaethu ar gyfer twf, swyddi lleol a buddsoddiad mawr. Cydweithio newydd i hybu’r achos dros fuddsoddi gan y Deyrnas Unedig mewn prosiectau sy’n denu llawer o fuddsoddiadau ac yn cefnogi swyddi teg sy’n cydnabod undebau llafur mewn meysydd fel ynni niwclear, ynni gwynt ar y môr a thechnoleg.
  • Buddsoddi ar gyfer creu Twf – gweithio mewn partneriaeth i ganolbwyntio ar gryfderau er mwyn hybu buddsoddiad a thwf.

‘Ras am sero net’

Wrth siarad yn y gynhadledd yn ddiweddarach, bydd Vaughan Gething yn dadlau bod diferu i lawr economaidd, sef theori economaidd sy’n golygu torri trethi cwmnïau mawr a’r cyfoethog yn y gobaith y bydd hynny’n arwain at welliannau i bawb arall, yn “fethiant llwyr”.

“Wrth i’r economi fyd-eang newid a’r ras am sero net gyflymu, mae ein blaenoriaethau yn ymwneud â throi’r cyfleoedd hynny yn dwf busnes a gwaith sefydlog, sy’n talu’n dda,” meddai.

“Mae cryfderau cydnabyddedig Cymru sydd â gwir botensial i dyfu yn helpu i’w gwneud yn lle gwych i fuddsoddi ac mae ein blaenoriaethau economaidd yn adeiladu ar ein henw da fel llywodraeth sefydlog – un y gall busnesau weithio gydag a chynllunio gyda.

“Mae Cymru hefyd yn le gwych i ddechrau a thyfu busnes ac rwy’n falch bod y busnesau newydd rydyn ni wedi’u cefnogi ddwywaith yn fwy tebygol o fod mewn busnes ar ôl pum mlynedd o’i gymharu â’r farchnad gyfan.

“Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau bach cryfach.

“O lansio benthyciadau busnes gwyrdd newydd drwy ein Banc Datblygu, i gynyddu nifer y contractau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a ddyfernir i fusnesau bach a chanolig Cymru.”

Mae Vaughan Gething hefyd yn galw ar fusnesau i ymrwymo i rymuso menywod a chael gwared ar rwystrau yn y gweithle, yn enwedig mewn sectorau lle nad ydyn nhw’n cael eu cynrychioli’n ddigonol.

‘Cynnal a chreu swyddi’

Un o’r busnesau sydd wedi bod yn gweithio tuag at flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw’r fenter gymdeithasol Elite Clothing Solutions yng Nglynebwy.

Mae’r fenter wedi bod yn rhoi cyfleoedd i bobol sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith, ac maen nhw newydd dderbyn cytundeb i wneud gwisgoedd Trafnidiaeth Cymru, drwy broses gaffael Llywodraeth Cymru.

“Mae ennill y contract i wneud gwisgoedd Trafnidiaeth Cymru yn gyflawniad gwych,” meddai Andrea Wayman, Prif Swyddog Gweithredol Elite Clothing Solutions, sy’n arwain consortiwm sy’n cynnwys Brodwaith Cyf yn Llangefni, Treorchy Sewing Enterprise yn y Rhondda a Fashion Enter yn y Drenewydd.

“Drwy ddull consortiwm bydd y gwisgoedd hyn yn cael eu gwneud yn gyfan gwbl yng Nghymru, o’r dylunio a’r gweithgynhyrchu i’r brandio.

“Yn economaidd, mae’n cynnal ac yn creu swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi i alluogi cyflogaeth gynhwysol – i bobol ag anableddau a phobol ddifreintiedig, gweithwyr hŷn, pobol ifanc a rhieni sengl.”