Mae 130 o fusnesau a grwpiau cymunedol wedi llofnodi llythyr agored yn galw am achub y diwydiant dur yng Nghymru.

Yn ôl y llythyr, mae’r cynlluniau presennol ar gyfer y diwydiant yn “fethiant affwysol fydd yn arwain at golli swyddi di-ri a difrodi diwydiant sy’n hanfodol i’r cymunedau mae’n eu cefnogi ac i lwyddiant economaidd y Deyrnas Unedig”.

Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol Uno’r Undeb, mae’r cynlluniau am gael cryn effaith ar y diwydiant, fydd yn ei dro yn cael effaith ar gymdeithas.

Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr mae grwpiau cymunedol, a chlybiau chwaraeon a chymdeithasol ardal Port Talbot.

Bydd cynrychiolwyr o bob rhan o’r gymuned yn dod ynghyd yng Nghlwb Rygbi Aberafan i lofnodi fersiwn enfawr o’r llythyr.

‘Cyflogwr hynod bwysig’

“Mae diwydiant dur Port Talbot yn gyflogwr hynod bwysig, yn darparu swyddi o safon i bobol leol,” medd y llythyr agored.

“Mae ei ddyfodol yn cynrychioli dyfodol ein cymuned a busnesau.

“Mae’r dyfodol hwnnw bellach yn ansicr.

“Ers yn rhy hir, mae diwydiant dur y Deyrnas Unedig wedi dioddef o fuddsoddiad anghyson a gweledigaeth tymor byr.

“Mae angen i’n gwleidyddion, o bob streip, sefyll ar eu traed ac ymrwymo i sicrhau dyfodol hirdymor i’r diwydiant cyn i gymunedau dur fel ein un ni ddioddef yr un ffawd ag y gwnaeth cymunedau glofaol a diwydiannol yn yr 1980au.

“Bryd hynny, eisteddodd y llywodraeth yn segur o’r neilltu a chaniatáu i gymunedau ddioddef.

“Ni ellir caniatáu iddyn nhw wneud yr un peth eto.

“Yn lle hynny, dylen nhw ymrwymo i’r buddsoddiad sydd ei angen i wneud y Deyrnas Unedig yn arweinydd Ewropeaidd mewn dur gwyrdd a sicrhau’r swyddi y mae ein cymuned yn dibynnu arnyn nhw.

“Er mwyn i gymunedau ffynnu, mae angen swyddi da arnyn nhw.

“Rôl y llywodraeth yw sicrhau bod gan gymunedau dyfodol sicr.”

Mae’r llythyr yn galw am ymrwymiad i:

  • newid rheolau caffael i adael i gontractau cyhoeddus y Deyrnas Unedig ddefnyddio 100% o ddur y Deyrnas Unedig. Gall hyn yn unig greu miloedd o swyddi.
  • buddsoddiad cyhoeddus ar gyfer Cynllun Pontio Gweithwyr Dur heb golli swyddi.
  • trosglwyddo gweithwyr fesul cam i Ddur Gwyrdd – wrth ddyblu’r gallu i ailadeiladu’r diwydiant a thyfu swyddi.”

‘Mae’n bryd achub ein dur’

Yn ôl Sharon Graham, Ysgrifennydd Cyffredinol Uno’r Undeb, mae’r sefyllfa am gael cryn effaith ar gymunedau, ac mae angen i’r llywodraeth weithredu.

“Mae busnesau a chymunedau Port Talbot yn gwybod ei bod hi’n amser prysur i ddur ac i ddyfodol eu tref,” meddai.

“Maen nhw’n ymuno ag Uno’r Undeb yn eu heidiau i alw ar ein gwleidyddion i weithredu nawr.

“Mae cynlluniau presennol y Llywodraeth ar gyfer y diwydiant yn fethiant affwysol fydd yn arwain at golli swyddi di-ri a difrodi diwydiant sy’n hanfodol i’r cymunedau mae’n eu cefnogi ac i lwyddiant economaidd y Deyrnas Unedig.

“Ni fydd Uno’r Undeb a phobol Port Talbot yn gorffwys nes bod gwleidyddion yn gwneud y dewisiadau cywir.

“Gall cynhyrchu dur yn y Deyrnas Unedig gael dyfodol disglair – mae’n bryd achub ein dur.”

“Effaith ddinistriol” ar y gymuned

Yn ôl Remi Whitelock o Glwb Pêl-droed Afan United, byddai colli’r diwydiant dur yn cael cryn effaith ar bob rhan o’r gymdeithas, ac mae angen i’r llywodraeth atal hynny rhag digwydd.

“Rydym yn cicio yn erbyn y colledion swyddi arfaethedig hyn,” meddai.

“Byddai’r effaith ar y gymuned yma ym Mhort Talbot yn ddinistriol.

“Mae pawb sy’n ymwneud â’r clwb hwn yn ymwneud â dur rywsut – yn chwaraewyr, hyfforddwyr, staff, cefnogwyr… Rydyn ni naill ai’n gweithio yno neu mae gennym ni ffrindiau neu deulu yno.

“Mae angen i’r llywodraeth weithredu – atal y toriadau mewn swyddi, buddsoddi’n iawn yn nyfodol cynhyrchu dur, a buddsoddi yn nyfodol y gymuned yma ym Mhort Talbot.”

Effaith ar fusnesau

Yn ôl Gavin John, perchennog Afan Ales & Fine Wines, byddai’n cael cryn effaith ar fusnesau lleol ac mae angen buddsoddi i rwystro hyn.

“Os bydd miloedd o swyddi’n mynd yn y gwaith dur, fe fydd yn ergyd drom i fusnesau lleol ym Mhort Talbot – ymhell y tu hwnt i’r diwydiant dur,” meddai.

“Mae eisoes yn anodd i fusnesau bach fel ni.

“Mae angen i ni atal y toriadau arfaethedig i swyddi ac edrych eto.

“Gallai buddsoddiad priodol mewn dur glân helpu i sicrhau dyfodol busnesau lleol…”

 

Y ffwrnais yn y nos

Dwsinau allan mewn tywydd garw i gefnogi gweithwyr dur Tata

Lewis Smith, Gohebydd Democratiaeth Leol

Mae’r diwydiant dur, gan gynnwys y safle ym Mhort Talbot, yn wynebu dyfodol ansicr

Diffyg cyfathrebu yn sgil buddsoddiad Tata “yn warthus”, medd Plaid Cymru

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn buddsoddi hyt at £500m mewn ymdrech i ddatgarboneiddio’r safle