Deffrais y bore ’ma tu allan i WHSmith, yn gorwedd ar y llawr, a gweld dyn efo gwaed ar ei sgidiau Nike Air Max yn gofyn a oeddwn i’n iawn. Dechreuodd ganu ‘Just a spoon full of sugar helps the medicine go down’. Tynnodd botel o wisgi o’i boced, a gofyn a oeddwn i eisiau llymaid. Roedd hi mor oer, felly cymerais ddiferyn i gynhesu gan fy mod yn crynu yn yr oerfel.

Roeddwn i’n eistedd tu allan i WHSmith efo cwpan i bobol gael rhoi arian ynddo i mi gael sosej rôl a phanad o Greggs. Roedd hi’n arllwys y glaw, fy sach gysgu’n wlyb, a’r glaw wedi mynd drwy fy sgidiau i fy sanau. Ac roedd fy holl ddillad yn fy mag yn wlyb i gyd. Doedd unman i fynd i sychu fy nillad. Roedd rhaid i mi ddisgwyl iddyn nhw sychu, ond roedden nhw’n siŵr o ddrewi o’r glaw.

Roeddwn i’n breuddwydio am gael bath poeth efo siampŵ a sebon efo oglau neis, wedyn mynd i’r gwely mewn pyjamas glân o dan flanced. Byddai’n braf clywed y glaw ar y ffenest, ac nid yn arllwys ar fy mhen.

Aeth pethau o’i le pan ddechreuais i a fy nghariad ffraeo. Penderfynodd hi nad oedd hi eisiau bod mewn perthynas efo fi rhagor. Gofynnodd i mi adael. Efo unman i fynd, paciais fy mag a mynd i gysgu ar y stryd.

Roeddwn wedi colli fy swydd ychydig fisoedd ynghynt. Dwi ar restr am dŷ cymdeithasol efo’r Cyngor, ond heb glywed dim eto. Dw i heb gyrraedd pen y rhestr. Dydw i heb gael blaenoriaeth eto. Dwi wedi ffonio’r Cyngor ac wedi cael sgwrs ddigon sych gyda dynes yn egluro nad ydw i ar ben y rhestr o bell ffordd. Mae’n rhwystredig fod pethau mor clinigol pan ydych yn siarad am rywbeth mor elfennol â chael to uwch eich pen.

Yn yr oerfel, wrth siarad ar y ffôn o’r blwch, roeddwn yn breddwydio am eistedd efo’r ci o flaen tân poeth. Does dim un hostel yn fodlon fy nghymryd oherwydd fod gen i Morgan y ci. Mae’n amhosib ffeindio swydd pan ydych chi’n methu cael bath a golchi eich dillad.

Gobeithio bod fy nhynged yn newid. Dwi’n breuddwydio am ddiwrnodau gwell, lle mae gen i arian yn y banc, fflat fach efo cegin, tŷ bach a pheiriant golchi dillad.

Gwelais golomen yn bwyta bara ar ochr y stryd, cyn iddi hedfan i ffwrdd. Edrychodd mor rhydd yn yr awyr. Dwi eisiau bod fel y golomen honno, yn rhydd i fyw fy mywyd fel dw i’n mynnu, ac nid tu allan i WHSmith neu Woolworths efo cwpan yn gofyn am geiniog neu ddwy, wedi socian yn y glaw.