Mae pobol sydd â chyflyrau ar yr ysgyfaint yng Nghymru wedi’u dal mewn “cylch dieflig” o ddiagnosis hwyr, diffyg mynediad at driniaethau hanfodol a chymorth gwael i reoli eu cyflyrau, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl elusen Asthma + Lung Cymru, gallai Cymru fod wedi osgoi 630 o farwolaethau bob blwyddyn pe bai iechyd yr ysgyfaint wedi gwella ar yr un raddfa â chlefyd cardiofasgwlar dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Mae cyfradd y marwolaethau y gellid fod wedi’u hosgoi ar gyfer clefyd cardiofasgwlar wedi gwella 56% dros yr ugain mlynedd diwethaf, ond mae wedi gostwng 4% ar gyfer cyflyrau’r ysgyfaint.

Oherwydd “diffyg gweithredu”, mae mwy o bobol bellach yn marw yng Nghymru o ganlyniad i gyflwr ar yr ysgyfaint nag yn unman arall yng ngorllewin Ewrop, medd yr elusen.

Mae’r elusen, sy’n dweud fod iechyd yr ysgyfaint yng Nghymru “mewn argyfwng”, yn galw ar wleidyddion i weithredu nawr.

Argymhellion

Yn ôl Asthma + Lung Cymru, mae’r “cylch dieflig” yn arwain at fwy o dderbyniadau brys i’r ysbyty y gellid eu hosgoi, gan achosi poen i gleifion a’u teuluoedd.

Mae hefyd yn rhoi straen sylweddol y gellid ei osgoi ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, medd yr elusen.

Eu hargymhellion i geisio torri’r cylch yw:

  • rhoi diagnosis o glefyd yr ysgyfaint yn gynnar ac yn gywir
  • cadw pobol yn iach ac allan o’r ysbyty
  • mynediad at y driniaeth sy’n gweithio
  • mynediad at adsefydlu ysgyfeiniol ar gyfer pawb sy’n gymwys
  • mynediad at driniaethau cyffuriau biolegol ar gyfer y rhai hynny sydd ag asthma difrifol

Arbedion “enfawr” i’r Gwasanaeth Iechyd

Mae’r elusen yn pwysleisio bod arbedion “enfawr” i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i’w gwneud drwy wella’r diagnosis a’r driniaeth ar gyfer clefyd yr ysgyfaint.

Mae’r adroddiad yn datgan y gallai argymhellion yr elusen arbed £19.5m y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd, a rhyddhau 5,000 o ddyddiau gwely dros gyfnod y gaeaf.

Asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) yw’r ddau gyflwr mwyaf cyffredin ar yr ysgyfaint, ac maen nhw’n costio £295m mewn costau uniongyrchol i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru bob blwyddyn, sy’n cynrychioli 1.3% o gyfanswm gwariant y Gwasanaeth Iechyd.

Mae’r ddau gyflwr hefyd yn achosi gostyngiadau ehangach o ran cynhyrchedd oherwydd salwch a marwolaethau cynamserol, sy’n werth cyfanswm o £477m y flwyddyn.

Felly, effaith cyffredinol y ddau gyflwr ar economi Cymru yw £772m y flwyddyn.

Cymunedau difreintiedig yn wynebu’r rhwystrau mwyaf i iechyd yr ysgyfaint da

Yn ôl ymchwil yr elusen, mae gan y byrddau iechyd mwyaf difreintiedig gyfraddau derbyniadau brys i’r ysbyty uwch a chyfraddau marwolaeth uwch ar gyfer clefydau anadlol, o’u cymharu â’r byrddau iechyd gwledig lleiaf difreintiedig.

Mae pobol sy’n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig – fel ardaloedd byrddau iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Cwm Taf Morgannwg – yn agored i lawer mwy o’r ffactorau risg ar gyfer datblygu cyflyrau ar yr ysgyfaint.

Maen nhw hefyd yn llawer mwy tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty a marw o gyflwr ar yr ysgyfaint na’r rhai yn y cymunedau lleiaf difreintiedig, sef ardaloedd byrddau iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Addysgu Powys.

Ymysg yr amrywiaeth o resymau pam mai rhai o’r cymunedau tlotaf sydd â’r iechyd gwaethaf o ran yr ysgyfaint mae ysmygu, tai o safon isel, llygredd aer a diffyg mynediad at wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

‘Angen gweithredu ymarferol ar unwaith’

Er mwyn arbed bywydau, ac arian i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae angen dod â’r “sylw anhafal” i iechyd yr ysgyfaint i ben, yn ôl Joseph Carter, Pennaeth y Gwledydd Datganoledig Asthma + Lung UK Cymru.

“Mae wir angen y math yma o weithredu ymarferol ar unwaith,” meddai.

“Mae ein glasbrint ar gyfer argymhellion iechyd yr ysgyfaint yn darparu sail dystiolaeth ar gyfer newid, a’r manylion am sut i gyflawni hyn.

“Bydd Asthma + Lung UK Cymru yn parhau i frwydro dros iechyd yr ysgyfaint gwell.

“Bydd un ym mhob pump ohonom yn cael cyflwr ar yr ysgyfaint yn ystod ein hoes.

“Ond mae miloedd nad ydyn nhw yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw, gan achosi problemau y gellid eu hosgoi sy’n gostus iddyn nhw ac i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Mae’r adroddiad hwn yn darparu cynllun ar gyfer newid.

“Mae angen i ni weithredu nawr.”