Bydd Cymru’n talu’r pris am flynyddoedd i ddod oni bai bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi amaethyddiaeth ar unwaith, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.

Daeth sylwadau Rhun ap Iorwerth yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 28).

Gofynnodd i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gadarnhau na fydd effeithiau niweidiol i’r diwydiant amaeth yn sgil y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25.

Mae disgwyl ei chyhoeddi fis nesaf.

Yn ôl Mark Drakeford, does dim un rhan o’r llywodraeth yn “imiwn” i’r ymdrech i ganfod yr arian sydd ei angen ar gyfer y gyllideb.

Rhun ap Iorwerth

Wrth ymweld â’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd ddoe (dydd Llun, Tachwedd 27), dywedodd Rhun ap Iorwerth fod “cwestiynau difrifol” wedi codi ynghylch dyfodol y sector.

Galwodd ar Mark Drakeford a’r Llywodraeth Lafur i “weld amaethyddiaeth fel buddsoddiad”.

“Os oedd byth angen am bartneriaeth rhwng y llywodraeth a’r diwydiant, nawr yw’r amser ar gyfer hynny,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Dydyn ni methu gwneud heb y diwydiant amaethyddiaeth yn nhermau bwyd, yr amgylchedd, cymunedau gwledig, yr iaith ac yn y blaen.

“Mae Cymru wledig ac amaethyddiaeth angen y Llywodraeth ar eu hochr.

“Rydym angen gweld amaethyddiaeth fel buddsoddiad.

“Os yw’r Llywodraeth yn methu â chefnogi amaethyddiaeth nawr, byddwn ni’n talu’r pris am flynyddoedd lawer i ddod.

“Mae’r heriau sy’n wynebu’r sector yn adeiladu.

“Gall y gaeaf fod yn gyfnod eithaf anodd i ffermio ar yr adegau gorau, ond gallai’r negeseuon cywir nawr, yn enwedig o ran sicrwydd ariannol, wneud gwahaniaeth.

“A chofiwch, am bob £1 sy’n mynd i mewn i amaethyddiaeth, mae £9 yn cael ei gynhyrchu i’r economi.

“A wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd heddiw na fydd y Gyllideb Ddrafft yn cael effaith andwyol ar amaethyddiaeth?”

Dim un sector yn “imiwn”

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford nad oes un rhan o’r llywodraeth yn “imiwn” i’r ymdrech i ganfod yr arian sydd ei angen ar gyfer y gyllideb.

“Na allaf. Ni allaf ddweud hynny,” meddai Mark Drakeford.

“Ni allaf ddweud hynny am unrhyw agwedd o’r gwaith mae’r Llywodraeth yn ei wneud.

“Rydyn ni £1.3bn yn brin o’r hyn sydd ei angen arnom y flwyddyn nesaf.

“Dyna effaith chwyddiant a methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal gwir werth y gyllideb y dywedon nhw fod ei hangen arnom pan fydd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn gosod ein cyllidebau am dair blynedd.

“Os oes angen i chi ddod o hyd i werth £1.3bn o weithgaredd i fyw o fewn ein modd, ni all yr un rhan o Lywodraeth Cymru ystyried ei hun yn ddiogel rhag yr ymdrech honno, ac mae hynny’n cynnwys amaethyddiaeth.

“Dw i’n credu bod y sector ffermio, y sector amaethyddol yng Nghymru, yn hanfodol bwysig.

“Dw i’n meddwl bod y gwaith mae’n ei wneud o fantais i Gymru.

“Dw i’n credu bod y ffaith ei fod yn cefnogi’r diwylliant, yr iaith, y ffordd o fyw – y cyfan sy’n bwysig i ni yr ochr hon i’r Siambr… Ond ni all ddim o hynny ddileu’r heriau sy’n ein hwynebu wrth osod ein cyllideb.

“A’r hyn dw i eisiau ei wneud y prynhawn yma yw bod yn glir gyda phobol.

“Yn y pen draw, yr hyn mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud yw pwyso a mesur yr holl flaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd.

“A’r cyfan dw i’n ei ddweud wrth yr Aelod y prynhawn yma yw, er gwaethaf y gwerth yr ydym yn ei ystyried i bopeth sy’n digwydd yng nghefn gwlad Cymru a’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant, nid oes unrhyw achosion arbennig i’w gwneud ar adeg pan fo’n rhaid i chi ddod o hyd i’r lefel o ostyngiadau yn ein gallu i fuddsoddi ym mhopeth sy’n bwysig i bobol ym mhob rhan o’n gwlad.”