Mae cynllun rhandiroedd gan fenter gymdeithasol yn helpu i adfywio byd natur a bywyd gwyllt yn Nyffryn Ogwen.

Mae prosiect Dyffryn Caredig gan Bartneriaeth Ogwen yn cael ei redeg gan y rheolwr prosiect Huw Davies, ac maen nhw’n enghraifft o fudiad sydd wedi datblygu rhandiroedd er budd y gymuned.

Maen nhw wedi cael caniatâd gan Byw yn Iach i ddefnyddio safle’r rhandiroedd, ac maen nhw’n ffodus o fod wedi gallu cydweithio â sawl partner dros y tair blynedd ddiwethaf, yn ôl Huw Davies.

“Mae rhandiroedd a gerddi cymunedol wedi’u datblygu yn Nyffryn Ogwen,” meddai wrth golwg360.

“Rydym wedi cael cefnogaeth gan Gyngor Gwynedd, a hefyd gan ffermydd a gerddi cymunedol i gael offer.

“Beth rydym wedi’i wneud ydy datblygu tir tu allan i’r Ganolfan Hamdden, Plas Ffrancon ym Methesda, i fod yn ardd gymunedol ac wedi datblygu rhandiroedd.

“Bellach, mae gennym ni 24 rhandir.”

Anifeiliaid a phlanhigion yn ffynnu

Mae’r rhandiroedd wedi datblygu bywyd gwyllt ym Mhlas Ffrancon ar raddfa fawr, gydag anifeiliaid a phlanhigion yn ffynnu yno.

“O le oedd yn gae, jest yn wair yn cael ei dorri yn rheolaidd, rŵan mae o’n hafan i bobol dyfu ffrwythau a llysiau,” meddai Huw Davies.

“Mae’n ardderchog fel adnodd llesiant, a hefyd ar gyfer bywyd gwyllt.

“Os ydych yn Nyffryn Ogwen, galwch heibio Plas Ffrancon i’r gerddi.

“Mae’r Carneddau yn gefndir iddo, mae o’n werth ei weld.

“Efo bywyd gwyllt, mae’r ffaith ein bod ni wedi plannu blodau a llwyni sydd yn denu peillwyr wedi bod yn fuddiol iawn.

“Mae hwnna yn lle bod gennym ni jest gwair ar y safle; mae gennym ni sawl math o flodyn sy’n apelio i’r peillwyr.

“Rydym wedi gweld dau ddraenog ar y safle’n ddiweddar, lle doedd yna ddim o’r blaen, dim ond gwair gydag unlle iddyn nhw guddio.

“Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi cyfrannu at lesiant ac at natur trwy greu’r gerddi a rhandiroedd.”

Llesiant

Mae’r rhandiroedd wedi gweld gwellhad yn iechyd meddwl a llesiant trigolion Dyffryn Ogwen hefyd.

“O ran llesiant, mae yna sawl tamaid o ymchwil sy’n dangos bod garddio, bod allan yn yr awyr iach a chael dwylo yn y pridd yn fuddiol i lesiant ac iechyd meddwl,” meddai Huw Davies.

“Rydym wedi bod yn cynnal sesiynau garddio rheolaidd yng Ngerddi Ffrancon ac yn Llys Dafydd.

“Rydym wedi cael sawl unigolyn yn mynychu a chydweithio ar bresgripsiwn cymunedol.

“Rydym yn gwybod fod llawer o bobol ifanc efo diddordeb hefyd.

“Mae llesiant yn rywbeth sydd yn apelio i bob oedran.

“Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi cyfrannu at lesiant ac at natur trwy greu’r gerddi a’r rhandiroedd.”

Grant i sefydlu rhandiroedd

Mae Cyngor Gwynedd yn atgoffa grwpiau cymunedol, elusennau, cynghorau cymuned a thref, a mudiadau gwirfoddol am yr arian grant sydd ar gael tuag at gynlluniau rhandiroedd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Rhagfyr 1, a dylai unrhyw gais gael ei yrru at cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru.

Am ffurflen gais a rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Gwynedd.