Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, wedi talu teyrnged i’w ragflaenydd Allan Rogers, sydd wedi marw’n 91 oed.

Roedd yn Aelod o Senedd Ewrop rhwng 1979 a 1984, ac yn Aelod Seneddol rhwng 1983 a 2001, gan wasanaethu sawl pwyllgor seneddol.

Cafodd Chris Bryant ei ethol i’w olynu, ac mae’n dweud ei fod yn “drist iawn” o glywed am ei farwolaeth.

“Fy nghydymdeimlad dwysaf i’w deulu oll,” meddai.

“Bydd colled fawr ar ei ôl, ac roedd yn eiriolwr gwych dros bobol y Rhondda trwy rai o’u hamserau mwyaf tywyll.”

Mae Hefin David, Aelod Llafur o’r Senedd dros Gaerffili, hefyd wedi talu teyrnged i’w “fywyd llawn”, gan ddweud ei fod e “wedi ymroi i wasanaeth cyhoeddus”.

“Roedd wedi fy annog i’n fawr iawn ers dechrau fy amser mewn gwleidyddiaeth,” meddai.

“Byddwn ni’n gweld ei eisiau’n fawr iawn.”