Mae amgueddfa yng Ngheredigion yn ceisio codi arian er mwyn cadw trysor yn y sir.

Cafwyd hyd i’r celc o dros hanner cant o eitemau o’r Oes Efydd yn Llangeitho yn 2020, ac mae Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth yn awyddus i’w prynu.

Mae’r eitemau’n cynnwys offer efydd, arfau ac addurniadau corff, ac mae’r crwner wedi datgan eu bod nhw’n drysor.

Bellach, mae’r darnau ar werth am £4,200 ac mae Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion yn gofyn am gyfraniadau ariannol i’w helpu nhw i’w prynu.

“Mae’r darganfyddiad unigryw a phrin hwn yn un cyffrous ac yn drysor yng ngwir ystyr y gair,” meddai Bronwen Morgan, Llywydd Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion.

“Fel Cyfeillion yr Amgueddfa, mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth posib i sicrhau ein bod ni a’r cenedlaethau sydd i ddod yn medru gweld a gwerthfawrogi ein treftadaeth ni yma yng Ngheredigion.

“Gofynnwn yn garedig, felly, am unrhyw gymorth ariannol posib i’n cynorthwyo i sicrhau bod gwrthrychau sydd wedi bod yng Ngheredigion ers 3,000 o flynyddoedd yn aros yma.”

‘Dysgu am ein cyndeidiau’

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, sy’n berchen ar Amgueddfa Ceredigion, mae’r celciau o’r Oes Efydd yn “eithriadol o brin” yn y sir, gyda dim ond dau gofnod hanesyddol arall o ddarganfyddiadau tebyg.

Mae’r gwrthrychau’n rhoi cyfle i ddysgu mwy am ddulliau a thraddodiadau gwaith metel yng Ngheredigion tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl, ac yn ôl y Cyngor Sir, mae’r ffaith iddyn nhw gael eu canfod gyda’i gilydd yn awgrymu bod pobol wedi dewis cyflwyno eu gwrthrychau efydd i’r ddaear – gweithred oedd, yn ôl pob tebyg, yn gysylltiedig â’u credoau crefyddol.

“Rydym yn gyffrous iawn am y posibilrwydd o gadw’r darganfyddiadau hynod bwysig hyn yng Ngheredigion,” meddai Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion.

“Mae’r celc yn rhoi cyfle gwych i ni ddysgu mwy am ein cyndeidiau.

“Diolch arbennig i Gyfeillion Amgueddfa Ceredigion am eu hymdrechion diflino i geisio cadw’r trysor unigryw hwn yng Ngheredigion.”