Mae trefnwyr Cynhadledd Cymdeithas Myfyrwyr Astudiaethau Celtaidd 2024 wedi cyhoeddi galwad am bapurau.

Maen nhw’n arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau ar gyfer papurau mewn un o’r ieithoedd Celtaidd.

Dyma’r unfed tro ar hugain i’r gynhadledd flynyddoedd gael ei chynnal, ac Université de Bretagne Occidentale yn Brest yn Llydaw fydd y lleoliad rhwng Mai 30 a Mehefin 1, 2024.

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn hybrid er mwyn hwyluso ymwneud rhyngwladol, yn ôl y trefnwyr.

Gall myfyrwyr cyfredol a rhai sydd newydd raddio gyflwyno papurau, a hynny ar unrhyw agwedd ar Astudiaethau Celtaidd, gan gynnwys pynciau’n ymwneud ag iaith, pobol, llenyddiaeth, hanes, diwylliant, dulliau cymharol a derbyniad.

Dylai’r papurau fod rhwng 15-20 munud, a dylai’r crynodeb fod hyd at 200 o eiriau, a’r dyddiad cau i’w derbyn yw Rhagfyr 10.

Posteri

Bydd cartref i bosteri ymchwil ar yr Hwb Cynhadledd ar-lein drwy gydol y digwyddiad.

Mae’r trefnwyr yn croesawu ceisiadau posteri ar unrhyw agwedd ar Astudiaethau Celtaidd yn unrhyw un o’r ieithoedd Celtaidd a/neu yn Saesneg, ac mae modd cyflwyno ceisiadau drwy e-bostio celticstudents.conference@gmail.com.