Mae Llywodraeth Cymru’n cael eu hannog i roi mwy o gefnogaeth i ffermwyr wrth iddyn nhw wynebu “argyfwng iechyd meddwl”.
Daw’r alwad ar ôl i arolwg ddangos bod 94% o ffermwyr dan 40 oed yn credu mai iechyd meddwl gwael yw’r mater sy’n effeithio arnyn nhw ond sy’n cael ei anwybyddu fwyaf.
Yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 28), galwodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, a Samuel Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddarparu mwy o gefnogaeth i ffermwyr.
‘Mae angen ffrind ar ffermio’
Dywedodd Mark Drakeford yn y Senedd nad oes un rhan o’r llywodraeth yn “imiwn” i’r ymdrech i ganfod yr arian sydd ei angen ar gyfer y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25.
Yn ôl Samuel Kurtz, gallai’r sesiwn yn y Senedd fod wedi bod yn gyfle i dawelu ofnau ffermwyr, gan roi sicrwydd iddyn nhw ynghylch cyllideb ffermio’r flwyddyn nesaf.
Mae disgwyl cyhoeddi’r gyllideb ddrafft fis nesaf.
“Mae ffermwyr yn mynd y tu hwnt i fwydo’r genedl, mewn swydd sy’n aml yn ynysig, yn unig a gyda chymaint o newidynnau a all achosi pryder a straen,” meddai Samuel Kurtz.
“Wrth i’r Ffair Aeaf ddod i ben, byddai’r digwyddiad wedi bod yn gyfle delfrydol i’r Llywodraeth Lafur gyhoeddi cefnogaeth wedi’i thargedu ar gyfer iechyd meddwl yn y gymuned amaethyddol, neu gallen nhw fod wedi tawelu llawer o ofnau drwy roi sicrwydd dros gyllideb ffermio’r flwyddyn nesaf.
“Yn anffodus, does dim cefnogaeth a dim sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ac mae’r hwyliau ymhlith ffermwyr yn adlewyrchu hyn.
“Nawr yn fwy nag erioed mae angen ffrind ar ffermio, a dim ond yn y Ceidwadwyr Cymreig mae’r ffrind hwnnw i’w gael.”
Ffermwyr yn wynebu “argyfwng iechyd meddwl”
“Mae ein cymunedau ffermio yn wynebu argyfwng iechyd meddwl, ac maen nhw angen ein cymorth,” meddai Jane Dodds.
“Gall yr arwahanrwydd eithafol a’r unigrwydd sy’n gysylltiedig ag oriau gwaith hir bywyd fferm achosi problemau iechyd meddwl difrifol i lawer o ffermwyr, hen ac ifanc.
“Dyma’r bobol sy’n gyfrifol am fwydo’r genedl.
“Trwy ryfeloedd a phandemig, maen nhw wedi sefyll yn gryf ac wedi ein cefnogi i gyd trwy amseroedd enbyd.
“Nawr mae’n amser i ni sefyll gyda nhw yn eu hawr o angen, fel y maen nhw wedi gwneud llawer gwaith i ni.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.