Mae pedwar corff wedi cael eu darganfod gan yr heddlu sydd wedi bod yn chwilio am ddynion ifanc yn eu harddegau oedd ar goll yng Ngwynedd.

Dywed Heddlu’r Gogledd ei bod hi’n ymddangos, ar hyn o bryd, mai “damwain drasig” oedd y digwyddiad.

Cafodd y cyrff eu darganfod mewn car sydd i’w weld wedi gadael yr A4085 yn mhentref Garreg ger Porthmadog, medd yr heddlu.

Doedd neb wedi gweld Jevon Hirst, Harvey Owen, Wilf Fitchett na Hugo Morris o ardal Amwythig ers bore dydd Sul (Tachwedd 19).

Roedd lle i gredu eu bod nhw wedi teithio o ardaloedd Harlech a Phorthmadog, a daeth Heddlu’r Gogledd o hyd i’r car fore heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 21).

“Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos mai damwain drasig ydy hi, ac mae ein meddyliau ni efo teulu a ffrindiau’r pedwar dyn ifanc yn y cyfnod anodd yma,” meddai’r Uwcharolygydd Owain Llewelyn.

“Bu chwilio helaeth a oedd yn cynnwys nifer o asiantaethau a gwirfoddolwyr gwahanol.

“Yn anffodus, nid dyma’r canlyniad oedd unrhyw un yn obeithio amdano.

“Rydyn ni’n gofyn i’r teulu gael y preifratrwydd a’r parch priodol.”

Maen nhw hefyd yn ychwanegu bod ymchwiliadau’n parhau i’r amgylchiadau wnaeth arwain at y car yn gadael y ffordd.

‘Newyddion torcalonnus’

Mewn datganiad ar y cyd, dywed Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, a Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd yr etholaeth, ei fod yn “newyddion gwirioneddol dorcalonnus ac fel rhieni ein hunain, mae ein meddyliau’n mynd allan i deuluoedd a ffrindiau’r pedwar dyn ifanc sydd wedi colli eu bywydau yn y digwyddiad trasig hwn”.

“Hoffem dalu teyrnged i’r gwasanaethau brys a’r timau achub mynydd lleol sydd wedi bod yn rhan o’r ymdrech chwilio, ac i aelodau’r cyhoedd am eu cymorth i helpu i ddod o hyd i’r cerbyd.

“Ni all unrhyw eiriau adlewyrchu’n ddigonol y tristwch a ddaw i’n cymuned gyfan yn sgil y newyddion hyn.”