Mae cynnydd sylweddol yn nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu hamddifadu yng Nghymru, medd yr RSPCA.

Yn ôl yr elusen, maen nhw’n rhagweld y bydd 1,610 o anifeiliaid wedi cael eu hamddifadu cyn diwedd y flwyddyn, sy’n gynnydd o 61% ers 2020.

Mae’r ffigwr wedi bod yn cynyddu ers hynny – o 997 yn 2020 i 1,192 yn 2021, ac yna i 1,419 y llynedd.

Cyfuniad o effeithiau’r pandemig a’r argyfwng costau byw sy’n gyfrifol am y sefyllfa, yn ôl yr RSPCA.

‘Miloedd o anifeiliaid bregus’

“Mae galwadau i’n llinell frys yn ymwneud ag anifeiliaid amddifad yn uwch nawr nag y bu ers tair blynedd, wrth i ni ymateb i nifer cynyddol o anifeiliaid yn cael eu gadael,” meddai Dermot Murphy o dîm achub yr RSPCA.

“Tu ôl i’r ystadegau syfrdanol hyn, mae yna filoedd o anifeiliaid bregus.

“Mae pob un yn werthfawr ac angen ein help ar frys.

“Rydyn ni’n bryderus ofnadwy am fisoedd y gaeaf yng Nghymru.

“Mae nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu hamddifadu wedi cynyddu’n sylweddol ac mae nifer o’n canolfannau achub yn llawn dop, felly rydyn ni’n wynebu argyfwng heb ei thebyg dros y gaeaf.”

Cŵn ar y clwt – “argyfwng”

Cadi Dafydd

“Mae’r ddeng wythnos nesaf yn allweddol i Tirion, i achub y goes. Dydy hi ond yn ddeng wythnos oed”

Canolfannau anifeiliaid amddifad yn “llawn dop” ac yn “anelu at argyfwng”

Cadi Dafydd

“Mae cŵn ein hangen ni fwy nag erioed ond does gennym ni ddim y lle na’r adnoddau na’r cyllid i helpu gymaint ag y bysan ni’n licio”