Po fwyaf y gwnaeth pobol gadw at reolau Covid yn ystod y pandemig, y gwaethaf yw eu hiechyd meddwl nawr, yn ôl ymchwil newydd.
Pobol oedd yn poeni fwyaf am yr haint ac a wnaeth gydymffurfio fwyaf â’r cyfyngiadau sydd lleiaf tebygol o fod yn ymddwyn fel oedden nhw cynt nawr, ac yn fwyaf tebygol o fod yn profi straen, gorbryder ac iselder, medd y canfyddiadau.
Fe wnaeth ymchwilwyr o Brifysgol Bangor edrych ar ymddygiad tua 1,700 o bobol yn ystod Covid, ac edrych yn fanylach ar ymddygiad a lles 850 ohonyn nhw heddiw.
Gwelodd y tîm fod y rhai oedd fwyaf sensitif i anghenion eraill yn fwy tebygol o fod yn cydymffurfio â rheolau’r cyfnod clo a chyngor iechyd, o gymharu â’r rhai oedd yn canolbwyntio mwy ar eu hanghenion a’u blaenoriaethau eu hunain.
“Yn naturiol, roedd llawer o ffocws ar ledaenu negeseuon iechyd y cyhoedd pan ddaeth Covid i’r amlwg gyntaf, er mwyn newid ymddygiad pobol,” meddai Dr Marley Willigers o’r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît ym Mhrifysgol Bangor.
“Yn yr un modd, trwy gydol y pandemig, cynlluniwyd ymgyrchoedd ar ffurf negeseuon i sicrhau bod pobol yn parhau i ddilyn y rheolau.
“Ond nid oedd unrhyw ymgyrch negeseuon wrth i ni ddod allan o’r pandemig i helpu pawb i drosglwyddo’n ddiogel i normalrwydd.
“Heb hyn, mae rhai mathau o bersonoliaeth wedi cadw ymddygiad atal heintiau a gorbryder sy’n tanseilio eu lles meddyliol.”
‘Ystyried y ddau fath o bersonoliaeth’
Nod yr adroddiad The effect of agency and communion on pandemic response and post-lockdown recovery oedd ateb tri chwestiwn – pwy sy’n dilyn cyngor iechyd, beth ellir ei wneud i wella cydymffurfio, a beth yw’r gost i’r rhai sy’n cydymffurfio?
Ar ôl gwneud ymchwil cychwynnol am bersonoliaeth ac agweddau 1,700 o bobol yn ystod Covid, fe wnaethon nhw gysylltu â 850 ohonyn nhw i ofyn iddyn nhw adrodd am eu lefelau llesiant, straeon, gorbryder, iselder ac atal heintiau bob pythefnos am dri mis rhwng Chwefror a Mai eleni.
Fe wnaeth yr ymchwilwyr gategoreiddio pob person mewn perthynas â dau fath o nodweddion personoliaeth – y rhai sy’n canolbwyntio’n fwy ar yr hyn sy’n effeithio arnyn nhw eu hunain (personoliaethau agentig) a’r rhai sy’n canolbwyntio’n fwy ar yr hyn sy’n effeithio ar bobol eraill (personoliaethau cymunedol).
Waeth beth oedd eu personoliaeth, po fwyaf y gwnaeth rhywun gydymffurfio â rheolau Covid, y gwaethaf oedd eu lles ar ôl hynny.
“Mae’n amlwg o’n hymchwil, os yw ymgyrchoedd hysbysebu’r llywodraeth am newid ymddygiad y cyhoedd, mae angen iddynt ystyried y ddau fath o bersonoliaeth,” meddai Dr Marley Willigers.
“Mae angen i ymgyrchoedd amlygu’r costau personol a’r buddion sy’n gysylltiedig ac nid cyfrifoldeb pobol am eraill yn unig.”
Enghraifft fwy ddiweddar mae’r ymchwil yn cyfeirio ati yw cyflwyno’r terfyn 20m.y.a. yng Nghymru.
Mae’r ymgyrch bresennol i hysbysu’r cyhoedd am y newid i’r terfyn cyflymder, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar y bywydau allai gael eu hachub drwy yrru’n arafach, yn annhebygol o annog personoliaethau agentig, meddai.
Byddai ymgyrch ehangach, sydd hefyd yn canolbwyntio ar gostau personol a manteision cydymffurfio â’r newid, yn targedu amrywiaeth ehangach o fathau o bersonoliaeth yn fwy effeithiol, yn ôl yr ymchwilwyr.