Mae gwaith wedi dechrau ar safle trin gwastraff yn y Bala, yn dilyn problemau gyda safon dŵr mewn afonydd yn yr ardal.

Mae datblygiadau yn y dref wedi dod i stop ers peth amser oherwydd pryderon am lefel uchel o ffosffad yn yr afonydd, sy’n effeithio ar yr amgylchedd.

Gan fod yr ardal o gwmpas Afon Dyfrdwy yn ardal o gadwraeth arbennig, roedd yr awdurdodau yn methu caniatáu ceisiadau cynllunio i godi tai, adeiladau a buddsoddiadau eraill yn yr ardal oherwydd yr effaith ar yr amgylchedd.

Mae’r gwaith yn cynnwys uwchraddio a gosod offer newydd ar y safle i gynyddu faint o ddŵr gwastraff sy’n cael ei drin yn y ganolfan.

Yr amgylchfyd a’r gymuned

Yn ôl Dilwyn Morgan, cynghorydd sir Plaid Cymru yn y Bala, mae’r buddsoddiad yn gwneud lles mawr i’r amgylchfyd a’r gymuned.

“Mae’n newyddion arbennig o dda bod buddsoddiad o £6m yn digwydd yn y safle trin gwastraff dros y gaeaf,” meddai.

“Bydd y buddsoddiad gan y Bwrdd Dŵr yn cynyddu’r capasiti a’r gallu i drin gwastraff y dref, a dwi’n sicr y bydd cwblhau’r gwaith dros yr ugain mis nesaf yn gam mawr ymlaen i’r gymuned, i ddatblygiadau ac i’r amgylchedd lleol.

“Yn amgylcheddol, bydd y gwaith yn helpu i wella ansawdd dŵr yr afon a fydd yn ei dro yn hwb i fywyd gwyllt ardal Penllyn,” meddai Elwyn Edwards, cynghorydd Plaid Cymru pentref Llandderfel ger y Bala.

“Mae hefyd o fudd i’r gymuned wrth sicrhau y bydd y safle â’r gallu i drin gwastraff, yn wyneb unrhyw dwf mewn poblogaeth, i’r dyfodol.” 

‘Dyfodol economaidd ar stop’

Bu’r cynghorwyr yn ymweld â’r safle tua chwe mis yn ôl, a dywed Alan Jones Evans, cynghorydd Llanuwchllyn, fod y datblygiad nawr yn “newyddion arbennig o dda i’r ardal”.

“Roeddem wedi treulio cyfnod o amser gyda dyfodol economaidd y Bala a Phenllyn ar stop oherwydd yr heriau oedd yn wynebu’r dref gyda’r ganolfan wastraff dŵr yn ei ffurf bresennol,” meddai.

“Dw i’n hynod o falch bod y buddsoddiad yn digwydd a gall y gymuned leol a busnesau’r dref edrych ymlaen at ddyfodol mwy llewyrchus.”

Mae’r cwmni sy’n gwneud y gwaith ar ran Dŵr Cymru hefyd wrthi’n adeiladu gorlifan newydd yn Llyn Celyn.