Mae adroddiad newydd yn argymell codi ffi ar yrwyr yng nghanol Caerdydd, er mwyn ceisio annog mwy o bobol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Bwriad adroddiad Centre for Cities ydy edrych ar darged polisi Llywodraeth Cymru o sicrhau bod 45% o’r holl deithiau yn y wlad yn cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus neu drwy deithio actif erbyn 2040.
Ymysg argymhellion eraill yr adroddiad Fare Outcomes: Understanding Transport in Welsh Cities mae eithrio bysus rhag gorfod cadw at gyfyngiadau 20m.y.a. a buddsoddi mwy mewn rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam.
Mae’r adroddiad, gafodd ei gomisiynu gan TUC Cymru, yn crybwyll ystod o opsiynau i godi arian fyddai’n mynd at wella trafnidiaeth gyhoeddus, fel tâl atal tagfeydd a chodi ffïoedd i barcio mewn gweithleoedd.
Yng Nghaerdydd, maen nhw am i fwy o dai gael eu hadeiladu yn agos at orsafoedd, ac ar gyfer Abertawe, Casnewydd a Wrecsam, maen nhw’n awgrymu creu mwy o swyddi ar safleoedd sy’n bodoli’n barod, yn hytrach na bod swyddi newydd ar wasgar, fel ei bod hi’n haws darparu trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod gwasanaethau bws yng Nghymru wedi dirywio 22% yng Nghymru rhwng 2004-05 a 2019-20, er bod pethau wedi gwella ychydig ers 2016/17, pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf.
Ledled Cymru, mae’r rhan fwyaf o bobol (tua 80%) yn defnyddio’r car i fynd i’w gwaith, tra bo cerdded yn dod yn ail.
Yn 2019, dim ond 5.2% oedd yn defnyddio bysus a 2.1% yn defnyddio trenau.
‘Angen bod yn greadigol’
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywed Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, eu bod nhw eisiau gweld newid a mwy o ddewisiadau trafnidiaeth i weithwyr.
“Rydyn ni angen bod yn greadigol wrth edrych am ddatrysiadau,” meddai,
“Rydyn ni eisiau gweld datrysiadau sy’n cyd-fynd ag anghenion gweithwyr ac yn adlewyrchu realiti marchnadoedd llafur ein dinasoedd.
“Mae hynny’n golygu addasu’r atebion iawn ar gyfer pob dinas a chwilio am ffyrdd o’u hariannu sydd ddim yn rhoi bwrn diangen ar weithwyr.
“Mae’r dystiolaeth yn glir o ddinasoedd o amgylch Ewrop: mae buddsoddi mewn rhwydwaith drafnidiaeth gall a dibynadwy yn talu am ei hun drwy well cyflogau a gweithwyr mwy cynhyrchiol.
“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru ac undebau trafnidiaeth wedi arwain y ffordd er mwyn edrych ar rwydwaith drafnidiaeth werdd a modern gyda chynlluniau fel Metro De Cymru.
“Rydyn ni angen gwneud hyn ar fwy o frys a rhoi gweithwyr wrth wraidd trafodaethau.”
‘Rhyfel yn erbyn gyrwyr’
Ar y llaw arall, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “greu rhyfel yn erbyn gyrwyr”, a dweud fod yr adroddiad yn “rhoi esgus iddyn nhw ymosod”.
“Mae ffioedd ffyrdd, parcio mewn gweithleoedd a chynyddu treth tanwydd i yrwyr Cymru’n gwbl annerbyniol,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, gan ddweud bod gweithwyr yn “cael eu gadael lawr gan drafnidiaeth gyhoeddus ddrud ac annibynadwy”.
“Ddylai pobol ddim cael eu cosbi am yrru eu car.
“Os yw Llafur yn gweithredu ar yr argymhellion hyn, bydd yn creu darlun dystopaidd iawn ar gyfer dyfodol Cymru.”