Fydd yr Urdd ddim yn eistedd a theimlo bod adroddiad diweddar i’w gwerth economaidd yn ddigonol, yn ôl y Prif Weithredwr.
Mae gwerth economaidd yr Urdd wedi cynyddu 76% dros bum mlynedd, ac yn 2022-23 fe gyfrannodd y mudiad £44.9m at economi Cymru.
Fe wnaeth gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog, Glan-llyn a Chaerdydd gynhyrchu cyfanswm o £7.9m o werth economaidd o fewn eu cymunedau, medd yr ymchwil gan gwmni Arad.
Roedd trosiant yr Urdd yn £19.6m yn 2022-23, sy’n gynnydd o 88% ers 2017-18.
Daeth £13m ohono o elw mewnol gan yr Urdd, tra bo’r 34% arall wedi dod o’r pwrs cyhoeddus.
‘Creu gweithlu’r dyfodol’
Dywed Siân Lewis eu bod nhw’n falch fod yr adroddiad wedi rhoi darlun cadarnhaol, yn enwedig yn y tirlun “caled ariannol” presennol.
“Dydy pobol ddim yn disgwyl i fudiad ieuenctid sy’n gorff trydydd sector sy’n gweithredu drwy’r Gymraeg i gael llawer o gyswllt gyda’r economi, ond mae’r cyhoeddiad heddiw’n dangos bod yr Urdd yn chwarae ei rhan yn fach yn cefnogi economi Cymru, drwy nid yn unig creu incwm o bron i £45m ond hefyd drwy’r gyflogaeth,” meddai’r Prif Weithredwr wrth golwg360.
Mae gan yr Urdd weithlu o 362 ar hyn o bryd, sef y nifer fwyaf yn hanes y mudiad, a ffigwr sydd wedi mwy na dyblu ers Tachwedd 2020.
“Drwy gyfnod caled Covid, lle collon ni 49% o’n gweithlu, aethon ni lawr i 160 o staff yn Nhachwedd 2020,” eglura Siân Lewis.
“Mae 41% o weithlu’r Urdd erbyn hyn o dan 25 oed, felly fel mudiad ieuenctid rydyn ni’n gweithredu i greu gweithlu ifanc i allu bod yn rhan bwysig iawn o wasanaethau’r Urdd.”
Mae sylw yn yr adroddiad i brentisiaethau’r Urdd hefyd, ac ar gyfartaledd mae 85 o ddysgwyr yn cychwyn ar raglen brentisiaeth yr Urdd bob blwyddyn – boed yn brentisiaid mewnol neu allanol.
“Mae’n bwysig ein bod ni, fel mudiad ieuenctid, yn creu gweithlu’r dyfodol, ac mae gwaith yr adran brentisiaethau wedi tyfu’n sylweddol dros y bum mlynedd ddiwethaf,” meddai Siân Lewis.
“O’r 25 yna, yn flynyddol mae yna 80% ohonyn nhw ar ddiwedd eu dwy flynedd nhw o hyfforddiant efo ni’n llwyddo i gael swyddi llawn amser efo’r Urdd.
“Rydyn ni’n buddsoddi mewn i hyfforddi pobol ifanc, ac wedyn yn defnyddio gwerth yr hyfforddiant yna wrth eu cyflogi nhw’n llawn amser.”
‘Parhau i adeiladu’
Er gwaetha’r adroddiad cadarnhaol, dydy’r mudiad ddim yn barod i orffwys ar eu rhwyfau ac yn “parhau i adeiladu”.
“Mae cydweithio â phartneriaid yn hanfodol,” meddai Siân Lewis.
“Mae gyda ni weithlu anhygoel gyda’r Urdd, pob un o’n hadrannau ni i gyd yn staff sy’n rhoi 100% i’r gwaith, a gydag ymroddiad i weld y gwaith yn tyfu.
“Dydyn ni ddim yn fudiad sy’n eistedd yn ôl a theimlo fod hwn yn ddigonol, rydyn ni’n parhau i drafod yn fewnol a datblygu.
“Mae’r ffaith ein bod ni wedi agor gwersyll yr Urdd ym Mhentre Ifan yng ngogledd Sir Benfro ym mis Medi, ac mae Glan-llyn Isa’ gyda ni yng Nglan-llyn, felly fyddwn ni’n gwneud ymdrech yn y ddwy flynedd nesaf i adeiladu’r capasiti yn y ddau wersyll yna.
“[Mae] syniadau newydd o hyd yn mynd o gwmpas ynglŷn â be’ fedrwn ni wneud i ddenu mwy o blant a phobol ifanc i ymwneud â’n gwasanaethau, a sicrhau ein bod ni’n ffynnu drwy wneud hynny, gan gadw ffocws ar y cyllid.”
Mae’r ymchwil yn dangos bod 92% o’r unigolion gymerodd ran yng ngweithgareddau’r Urdd dros yr haf eleni “yn teimlo’n fwy positif am y Gymraeg”.
Dywed 88% eu bod nhw’n fwy tebygol o ddefnyddio’r iaith, a 73% eu bod nhw’n deall mwy am Gymru.
“Mae be’ rydyn ni’n ei wneud yn bwysig o ran y Gymraeg, ond mae o’n adnodd pwysig hefyd o ran yr economi a’r gweithlu Cymraeg.
“Rydyn ni’n gyflogwr mawr yng Ngheredigion yn Llangrannog ac yn ardal y Bala gyda Glan-llyn, ac rydyn ni eisiau sicrhau ein bod ni’n parhau i gyrraedd pobol ifanc cefn gwlad, a’r gweithlu yna yng nghefn gwlad hefyd.”