Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dalu sylw i’r dadleuon “anorchfygol” yn erbyn Israel, yn ôl Plaid Cymru.

Daw hyn wrth iddyn nhw ddweud y bydd y gwrandawiad yn y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol yn yr Hâg yn eiliad “dyngedfennol” wrth ddwyn llywodraeth y wlad i gyfrif am y gwrthdaro â Phalesteina yn Gaza.

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru, yn annog Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i roi “ystyriaeth ofalus” i dystiolaeth De Affrica, sy’n cyhuddo Israel o hil-laddiad.

O gofio bod 10,000 o blant wedi’u lladd ers i’r ymladd ddechrau, dylai’r llywodraeth yn San Steffan ddilyn yr un egwyddor ag y gwnaethon nhw mewn perthynas â hil-laddiad gan Myanmar yn erbyn y Rohingyas, meddai.

Yn ôl y Deyrnas Unedig, os yw plant yn cael eu lladd, mae’r trothwy ar gyfer hil-laddiad yn is nag y byddai pe bai’r trais yn erbyn oedolion.

Rhaid defnyddio cyfraith ryngwladol “mewn modd cyson heb ragfarn”, meddai Liz Saville Roberts.

Cynnig Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cynnig yn San Steffan yn croesawu tystiolaeth De Affrica ac yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi ystyriaeth ofalus iddi.

Mae Liz Saville Roberts yn annog pleidiau gwleidyddol eraill San Steffan i lofnodi’r cynnig.

Mae Tembeka Ngcukaitobi, cyfreithiwr o Dde Affrica, wedi dweud wrth y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol fod “bwriad” Israel i gyflawni hil-laddiad yn amlwg “o’r ffordd mae’r ymosodiad milwrol hwn yn cael ei gynnal”.

“Mae’r bwriad i ddifetha Gaza wedi’i feithrin ar lefel ucha’r wladwriaeth,” meddai.

“Wrth i ni agosáu at 100 diwrnod ers yr ymosodiadau erchyll gan Hamas ar Hydref 7, dylai’r gwrandawiad hwn fod yn alwad i ddeffro i’r llywodraethau Gorllewinol hynny sydd wedi rhoi’r hawl i Israel gael rhwydd hynt o ran eu hymateb milwrol.

“Cyflwynodd De Affrica achos anorchfygol, gan bwysleisio bod Israel yn methu ag atal hil-laddiad a thorri’r confensiwn hil-laddiad – mater mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei ystyried yn ofalus.

“Mae trais gan Israel yn Gaza wedi arwain at farwolaethau dros 23,000 o sifiliaid, gan gynnwys bron i 10,000 o blant, o boblogaeth o ddim ond 2.27m dros gyfnod byr o dri mis.

“Fel sydd wedi’i amlinellu gan dîm cyfreithiol De Affrica, does dim gwadu bod gwleidyddion Israel sydd mewn swyddi pwerus wedi defnyddio iaith yn ymwneud â hil-laddiad dro ar ôl tro, a dydy’r defnydd eang a chyffredinol o fomio a tharfu ar gyflenwadau bwyd, dŵr a meddyginiaeth i Gaza ddim yn gadael yr un o sifiliaid Gaza yn ddiogel.

“Rhaid i’r defnydd o gyfraith ryngwladol fod yn gyson a heb ragfarn.

“Cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymyrraeth ar y cyd wrth gefnogi’r defnydd o weithredoedd yn ymwneud â’r cais o ran hil-laddiad ym Myanmar, gan ganolbwyntio ar yr effaith anghymesur ar blant.

“Gyda 10,000 o blant wedi’u lladd yn Gaza, allwn ni ddim cyfiawnhau methu â dangos yr un ddynoliaeth i blant Gaza mewn unrhyw ffordd.

“Hefyd, dylid cynyddu’r mesurau i osgoi a thawelu rhaniadau yma yn y Deyrnas Unedig, gan fod dirfawr angen i ni fynd i’r afael â’r lefelau cynyddol o wrth-Semitiaeth ac Islamoffobia o fewn cymunedau.

“Bydd rhoi terfyn ar y gwrthdaro yn Gaza a dychwelyd gwystlon yn ddiogel o Israel yn chwarae rhan bwysig wrth ddod â gwrthdaro i ben.

“Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cynnig yn San Steffan yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wrando ar ddadleuon De Affrica a defnyddio cyfraith ryngwladol mewn ffordd gyson o ran gweithredoedd Israel a Hamas.

“Rydym yn annog pleidiau eraill i ymuno â ni drwy lofnodi’r cynnig.”