Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod gwneud tro pedol i leihau’r cymorth ariannol i fusnesau gyda threthi busnes yn ergyd i’r diwydiant lletygarwch, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.
Daeth sylwadau Rhun ap Iorwerth ar ôl iddo holi’r Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw (dydd Mawrth, 16 Ionawr) am y penderfyniad i leihau’r gostyngiad sydd ar gael i drethi busnesau o 75% i 40%.
Roedd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi gwneud y cyhoeddiad yn y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr.
Ers dechrau’r flwyddyn mae nifer o fusnesau wedi cyhoeddi eu bod yn cau, gan gynnwys tafarn The Conway yng Nghaerdydd a’r bwytai Kindle a The Brass Beetle.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru y dylai’r llywodraeth ailystyried y penderfyniad a chynnig achubiaeth unfed awr ar ddeg i fusnesau.
Fe fu Rhun ap Iorwerth yn cwrdd ag arweinwyr y diwydiant lletygarwch heddiw gan gynnwys y perchennog bwyty Simon Wright. Mae e wedi dweud bod y penderfyniad i leihau’r rhyddhad ardrethi busnes yn “ergyd drom” i’r sector. Mae wedi galw ar y Llywodraeth i wyrdroi’r penderfyniad.
Angen ‘achubiaeth’
Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae angen llywodraeth ar Gymru sy’n cefnogi busnesau i greu’r ffyniant a’r tegwch economaidd a chymdeithasol y mae ein cymunedau mor ddirfawr eu hangen.
“Ond mae penderfyniad y Llywodraeth Lafur yn y Gyllideb Ddrafft i ddod â’r rhyddhad ardrethi busnes o 75% i ben yn ergyd i siopau a’r sector lletygarwch.
“Dim ond yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae busnesau bwyd a diod enwog a sefydledig yng Nghymru wedi cyhoeddi eu bwriad i gau.
“Mae gweinidogion yn dadlau nad oedd bwriad i’r rhyddhad ardrethi busnes presennol o 75% – sy’n dyddio’n ôl i’r pandemig – barhau am gyfnod amhenodol, ond mae’n codi’r cwestiwn pam?
“Rhaid i’r Llywodraeth ailystyried y penderfyniad hwn a chynnig achubiaeth unfed awr ar ddeg i fusnesau.”
“Cyfnod mwyaf heriol erioed”
Ychwanegodd Simon Wright: “Rydw i wedi bod yn y sector lletygarwch ers amser hir, ond dyma’r cyfnod mwyaf heriol rydyn ni erioed wedi’i weld.
“Mae busnesau dan gymaint o bwysau.
“Mae diwygio ardrethi busnes yn gwbl hanfodol. Ry’n ni’n gwybod nad yw’n addas at y diben. Mae angen inni greu amgylchedd gwell i fusnesau bach yng Nghymru, sy’n gwario eu harian yng Nghymru, ac sydd â’u gwreiddiau yn y gymuned.
“Rydyn ni’n dda iawn am y math yna o fusnes yng Nghymru ac mae angen i ni ei gefnogi. Mae hon yn ergyd go iawn ac rydym yn gobeithio bod gan y Llywodraeth y synnwyr i wrthdroi’r penderfyniad hwn.”