Bwriad Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri yw gwneud hi’n orfodol i bobol gael caniatâd cynllunio er mwyn newid defnydd eiddo.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r bwriad, tra bo’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y Cyngor, sy’n cael ei arwain gan Blaid Cymru, yn “wrth-fusnes”.
Ond beth yn union yw Erthygl 4, a beth yw’r dadleuon yn ei gylch?
Beth yw Cyfarwyddyd Erthygl 4?
Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn arf cynllunio sy’n galluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol i ymateb i anghenion penodol eu hardaloedd.
Ar gyfer rhai mathau penodol o ddatblygiad nid oes angen derbyn caniatâd cynllunio.
Serch hynny, trwy weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4, byddai modd i Awdurdod Cynllunio Lleol fynnu caniatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o ddatblygiadau mewn ardal benodol a fyddai fel arall ddim angen derbyn hawl cynllunio ar gyfer y defnydd.
Fel rhan o ymdrechion i geisio cael rheolaeth dros y defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau mewn cymunedau, mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio Deddfau Cynllunio perthnasol.
Mae’r diwygiadau hyn yn galluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi neu lety gwyliau tymor byr.
Beth fyddai’r newid yn ei olygu?
Mae tri chategori wedi cael eu cyflwyno sy’n berthnasol i dai preswyl, ail gartrefi a llety gwyliau:
Dosbarth C3 – Tai annedd, sy’n cael eu defnyddio fel unig breswylfa neu brif breswylfa (Prif Gartref)
Dosbarth C5 – Tai annedd sy’n cael eu defnyddio mewn modd ac eithrio fel unig breswylfa neu brif breswylfa (Ail Gartref)
Dosbarth C6 – Llety tymor byr (Llety Gwyliau Tymor Byr)
Ar hyn o bryd, mae modd i berchnogion newid rhwng y dosbarthiadau defnydd penodol yma heb yr angen am hawl cynllunio.
Fodd bynnag, er mwyn cael rheolaeth o’r defnydd o dai, mae modd i Awdurdodau Cynllunio Lleol ddiwygio’r system gynllunio yn eu hardal trwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 bellach.
Os bydd Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn cael ei gyflwyno, bydd modd i Awdurdod Cynllunio Lleol dynnu’r hawl awtomatig i newid defnydd eiddo ar gyfer rhai datblygiadau.
Byddai hyn yn ei wneud yn ofynnol i berchnogion eiddo preswyl dderbyn caniatâd cynllunio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn newid defnydd eu heiddo.
Beth os yw’r eiddo eisoes wedi’i ddatblygu’n ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu ddefnydd cymysg penodol?
Os ydych yn berchen ar dŷ sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio fel ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu ddefnydd cymysg penodol (cyn 1 Medi 2024), ni fydd y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn effeithio arnoch chi.
Fydd y newid ond yn berthnasol i bobol sy’n newid defnydd eu tai ar ôl Medi 2024.
Beth yw’r broses ar gyfer cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4?
Ar Fehefin 13 2023, cyflwynodd Cabinet Cyngor Gwynedd adroddiad yn amlinellu’r dystiolaeth i gefnogi cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd.
Yn ystod y cyfarfod hwnnw, cytunodd y Cabinet i osod rhybudd Cyfarwyddyd Erthygl 4 a chynnal ymgynghoriad i’r cyhoedd roi eu barn.
Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried, cyn y bydd y mater yn cael ei ystyried gan y Cabinet am benderfyniad terfynol.
Os bydd Cabinet y Cyngor yn pleidleisio o blaid cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, bydd yn cael ei weithredu ar Fedi 1 2024.
A oes dadleuon yn ei gylch?
Dros y misoedd diwethaf mae dadleuon wedi codi ynghylch y posibilrwydd o basio Erthygl 4.
Cafodd deiseb ei sefydlu fis diwethaf er mwyn ceisio atal Cyngor Gwynedd rhag rhoi Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar waith, ac erbyn hyn mae dros 2,500 o bobol wedi’i llofnodi.
Mae’r rhesymau dros ei llofnodi’n amrywiol, ond mae nifer yn dweud ei fod yn “annheg”.
Dywedodd un sydd wedi’i llofnodi: “Bydd yr erthygl 4 yma yn cael ei chymharu â daeargryn ar y Ddaear ar benrhyn Llyn, o gartrefi i fusnesau, swyddi, bydd teuluoedd yn cael eu hysgwyd i’r craidd.
“Nid oes gan y cyngor unrhyw hawl o gwbl i ymyrryd yn yr hyn y mae pobl yn ei wneud â’u tai,” meddai un arall.
Mae grŵp preifat wedi’i sefydlu ar Facebook hefyd, dan yr enw ‘Trigolion Gwynedd yn Erbyn Erthygl 4 – People of Gwynedd Against Article 4’, gyda 1,300 o aelodau.
Dywedodd Janet Finch-Saunders, llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig: “Ddylen ni fod yn dod o hyd i ddatrysiadau i ddyblu nifer y tai’n cael eu hadeiladu, nid cosbi perchnogion ail dai sy’n cyfrannu at yr economi leol.”
Serch hynny, mae dadleuon o’i blaid yn ymddangos dros y cyfryngau cymdeithasol ac mae’r grŵp ‘Pobl Gwynedd o blaid Erthygl 4’ ar Facebook wedi atynnu bron i 500 o aelodau dros y pedwar diwrnod diwethaf.
Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: “Rydyn ni’n falch bod Cyngor Gwynedd yn bwriadu dechrau ar y broses o gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4, ac yn gobeithio y bydd cynghorau eraill ar draws Cymru yn dilyn yn fuan.”