Mae cronfa i gefnogi gwyliau a digwyddiadau bwyd a diod ledled Cymru wedi agor heddiw (dydd Mercher, Mai 1).

Bydd y rhaglen gan Lywodraeth Cymru, sy’n werth £192,000, yn rhoi grantiau bychain i gefnogi gwyliau sy’n ychwanegu gwerth at y diwydiant yng Nghymru.

Mae’r gronfa hefyd yn anelu at annog cydweithio rhwng busnesau lletygarwch a bwyd a diod yng Nghymru, er mwyn iddyn nhw ddod o hyd i fwy o fwyd a diod lleol a chynyddu faint o fwyd a diod o Gymru sydd ar fwydlenni ac mewn siopau.

Bydd y cynllun ar agor i geisiadau rhwng Mai 1 a Mehefin 7, ar gyfer sefydliadau sy’n bwriadu cynnal digwyddiadau cyn Mawrth 31 y flwyddyn nesaf. 

“Bydd y gronfa hon yn cynnig cefnogaeth i wyliau a digwyddiadau bwyd sydd â syniadau arloesol ynghylch hyrwyddo bwyd a diod o Gymru,” meddai Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Cymru.

“Mae bwyd a diod o Gymru yn mynd o nerth i nerth, gyda nifer o gynnyrch newydd a chyffrous o ansawdd uchel ar gael.

“Rwy’n falch o gyhoeddi bod y cynllun hwn bellach ar agor, i gefnogi gwyliau a digwyddiadau i arddangos ansawdd ardderchog y bwyd a’r diod sydd gennym yma yng Nghymru.

“Nod y cynllun yw creu mwy o gysylltiadau rhwng gwyliau a digwyddiadau bwyd ag amaethyddiaeth, y system brosesu bwyd, cyrchfannau twristiaeth a’r sector gwasanaeth bwyd.

“Bydd hyn yn ein galluogi i fanteisio ar y buddion economaidd, a rhoi profiad diwylliannol unigryw o ansawdd uchel i ymwelwyr hefyd.”