Mae diwrnod cyntaf Mai yn ddyddiad arwyddocaol yn draddodiadol, gan ei fod yn nodi gŵyl Calan Mai a dechrau’r haf.
Roedd hi’n ŵyl bwysig i’r Celtiaid, ac roedd gan y Cymry ambell draddodiad eu hunain hefyd.
Ar Galan Mai, byddai anifeiliaid yn cael eu gadael allan i’r borfa, a theuluoedd yn gadael eu cartrefi yn y dyffryn a symud i diroedd uwch – neu’n mynd o’r hendre i’r hafod.
Roedd yn draddodiad hefyd i bobol fynd o dŷ i dŷ yn canu carolau’r gwanwyn, ac ymhell cyn hynny yn oes y Derwyddon roedd y dyddiad yn cael ei gysylltu â thân ac ysbrydion.
Erbyn hyn, mae ymgyrch ‘No Mow May’, sy’n annog pobol i beidio â thorri’r gwair yn eu gerddi, wedi dod yn boblogaidd ym mis Mai.
Gyda dyfodiad yr haf, fe fu golwg360 yn siarad â Stephanie Hafferty, garddwraig ac awdur sy’n byw ger Llanbedr Pont Steffan ers tair blynedd.
Mae hi’n garddio’n organig ac yn defnyddio compost i blannu yn hytrach na phalu’r tir.
“Dw i’n meddwl mai’r prif bethau nawr yw cadw ar ben y chwyn, mae’r tywydd yn berffaith i chwyn – maen nhw wrth eu boddau efo tywydd gwlyb,” meddai.
“Heddiw, dw i wedi bod yn potran efo sawl peth. Ond mae gen i polytunnel a thŷ gwydr felly dw i’n gallu hau pethau ychydig yn gynt gan fy mod i’n gallu’u cadw nhw’n gynnes.
“Mae yna lwyth o bethau y gallwch chi eu plannu ar y funud, pethau fyddwch chi’n eu bwyta’r gwanwyn nesaf, kale fyddwch chi’n ei fwyta ddiwedd yr haf neu’r hydref.
“Gallwch chi blannu corpwmpenni, pwmpenni’r haf neu bwmpenni’r gaeaf mewn potiau dan do. Oherwydd y tywydd gwlyb, mae’r ddaear ry oer i bethau fel yna ac fe wnawn nhw bydru.
“Erbyn iddyn nhw fod yn ddigon mawr i fynd i’r ardd, mi fydd hi’n wanwyn go iawn, gobeithio!
“Fedrwch chi blannu cennin rŵan, byddan nhw’n barod yn hwyrach na rhai fyddai wedi cael eu plannu ym mis Ebrill, ond mi ddown nhw flwyddyn nesaf yr un fath. Fedran nhw fynd yn syth i’r ardd; gall yr holl datws fynd mewn hefyd.”
Ychwanega fod angen i giwcymbyrs, corn melyn, melon a basil fynd i botiau i ddechrau, tra bo letys, chard, bresych yr hydref a sibols yn iawn i fynd yn syth i’r tir.
“Un peth i’w wneud ydy cadw golwg ar y rhagolygon tywydd am nosweithiau oer.
“Fedrwch chi blannu ffa cochion rŵan, ond dydyn nhw ddim yn ymdopi mewn rhew, felly bydd rhaid eu rhoi nhw mewn potiau a’u rhoi nhw allan pan fydd hi wedi stopio rhewi.”
Malwod a No Mow May
A ninnau wedi cael gaeaf gweddol gynnes, mae malwod yn bla mewn gerddi a’r dasg fawr arall ydy eu hela nhw, yn ôl Stephanie Hafferty.
“Mae lot o bobol yn gwneud ‘No Mow May’, ond dydw i ddim am ddau reswm,” meddai.
“Y rheswm cyntaf ydy’r malwod. Os ydw i’n gadael i’r gwair o amgylch y llysiau i dyfu’n hir, mae’n berffaith i falwod guddio. Maen nhw’n eistedd yno drwy gydol y dydd yn aros, cyn dod allan yn y nos i fwyta’ch hoff fwyd.
“Felly mae cadw’r gwair yn fyr ger eich mannau tyfu llysiau’n helpu i gadw malwod draw.
“Mae’r gwair yn ddefnyddiol iawn i’r compost hefyd.
“Os ydych chi’n ei dorri fo ddim rhy fyr, fydd gennych chi dal ddigon o borfa i chwilod a phryfetach symud, a bydd unrhyw flodau fel dant y llaw, blodyn menyn a llygad y dydd dal yn blodeuo i ddenu’r pryfaid.”
Mae porfeydd yn llefydd pwysig i nifer o adar fwydo hefyd, gan mai yno maen nhw’n cael gafael ar lawer o bryfed.
“Yr ail reswm, os ydych chi’n gadael iddo dyfu drwy fis Mai a’i dorri ym mis Mehefin, bydd yna nifer o bryfed yn byw ynddo, ynghyd â’r malwod, a bydd gennych chi lyffaint bach os oes gennych chi bwll yn yr ardd. Mae’n bosib bod draenogod yno hefyd.
“Wedyn wrth ei dorri, mae’n bosib brifo a lladd y creaduriaid hyn.
“Os ydych chi am gael gwair hir, mae’n well cael rhan lle nad ydych chi’n ei dorri a’i adael tan yr hydref.
“Dyna dw i’n ei wneud yn fan hyn, mae’r gwair yn tyfu’n wyllt o amgylch yr ymylon a fydda i ddim yn ei dorri felly fydda i ddim yn brifo unrhyw greaduriaid.
“Mae’n syniad neis, ond dyna’r rhesymau ymarferol pam nad ydw i’n cymryd rhan. “