Mae’r Arlywydd Joe Biden wedi dweud bod ymdrech fawr ar y gweill i sicrhau nad yw cyflenwadau ynni’n cael eu heffeithio yn dilyn ymosodiad seibr ar un o bibellau tanwydd mwya’r Unol Daleithiau.

Am y trydydd diwrnod yn olynol mae’r gwaith ar y bibell sy’n cludo nwy a mathau eraill o danwydd o Tecsas i arfordir y gogledd-ddwyrain wedi dod i stop. Dywedodd Llywodraeth Joe Biden bod pob ymdrech yn cael ei wneud i adfer y gwasanaeth. Yn y cyfamser mae’r rheolau sy’n ymwneud a chludo tanwydd ar y ffordd wedi cael eu llacio.

Dyma’r ymosodiad seibr gwaethaf ar isadeiledd hanfodol yr Unol Daleithiau. Mae’r bibell, sy’n cael ei redeg gan gwmni Colonial Pipeline yn darparu 45% o’r tanwydd sy’n cael ei ddefnyddio ar hyd yr arfordir dwyreiniol. Yn ôl adroddiadau, y grŵp troseddol DarkSide sy’n gyfrifol am yr ymosodiad.

Nid yw Colonial Pipeline wedi datgelu beth mae’r grŵp wedi mynnu yn gyfnewid am roi’r gorau i’r ymosodiad.

Mae DarkSide yn honni eu bod yn cymryd arian gan gorfforaethau ac yn rhoi cyfran i elusennau.

Nid yw Colonial Pipeline wedi dweud os ydyn nhw wedi talu arian i’r grŵp neu’n trafod gyda nhw, ac nid yw DarkSide wedi cyhoeddi’r ymosodiad ar eu gwefan.