Mae blogiwr a chyn-ddiplomat wedi cael ei garcharu am wyth mis am ddirmyg llys, ar ôl gohebu ar achos llys Alex Salmond a chyhoeddi gwybodaeth na ddylai fod wedi ei chyhoeddi.

Roedd Craig Murray yn y llys yng Nghaeredin ar ddau ddiwrnod yn ystod achos Alex Salmond fis Mawrth y llynedd, ac fe wnaeth ei ohebu ar yr achos ar ei wefan bersonol.

Penderfynodd barnwyr fod y dyn 62 oed yn euog o ddirmyg llys oherwydd y gallai’r wybodaeth ar ei wefan fod wedi helpu i adnabod pedwar o bobol oedd wedi gwneud cwynion yn erbyn cyn-brif weinidog yr Alban.

Wrth ddedfrydu cyn-lysgennad y Deyrnas Unedig i Uzbekistan, dywedodd y barnwr fod Murray yn gwybod am orchmynion llys oedd yn golygu na allai gwybodaeth bersonol am bedair dynes gael ei chyhoeddi rhag iddyn nhw gael eu hadnabod, ond fod Murray yn dymuno gwneud hynny.

Dywedodd y barnwr fod y weithred yn “ffiaidd”, yn enwedig o ganlyniad i’r cyhoeddusrwydd ynghylch yr achos.

Negeseuon

Aeth Craig Murray ati dros gyfnod o fis i bostio ar ei wefan ac ar Twitter ac roedd y negeseuon wedi’u postio heb eu golygu drwy gydol y cyfnod hwnnw – er iddo fe gael rhybudd y gallen nhw helpu i adnabod pedair dynes.

Cafwyd Alex Salmond yn ddieuog o 13 o gyhuddiadau yn y pen draw.

Dywedodd y barnwr fod Murray o’r farn ei bod hi “o fudd i’r cyhoedd” gael gwybod pwy oedd y rhai oedd wedi gwneud cwyn yn erbyn y cyn-brif weinidog.

Dywedodd ymhellach y gallai’r sefyllfa olygu na fyddai pobol yn barod i gwyno yn y dyfodol, yn enwedig pe bai’r achos yn debygol o ddenu cryn sylw.

Roedd disgwyl y byddai’n rhaid iddo fynd at yr heddlu o fewn 48 awr ond cafodd y cyfnod ei ymestyn i dair wythnos ar gais ei gyfreithiwr, ond fe fydd yn rhaid iddo ildio’i basport ar unwaith.