Mae Liz Saville Roberts yn galw ar Lywodraeth Prydain i weithredu ar frys ym maes gofal cymdeithasol yn dilyn eu Haraith Frenhines “ddiflas a diymrwymiad”.

Ac eithrio’r “rhwysg a’r pasiantri”, meddai, nid “cynnwys Araith y Frenhines oedd yn nodedig ond ei hepgoriadau”.

Dywed fod yr araith “fel tarten afalau heb yr afalau i’w llenwi hyd yn oed”.

“Yr hepgoriad amlycaf oedd methiant y Llywodraeth Dorïaidd i weithredu ar eu haddewid maniffesto i ddiwygio gofal cymdeithasol,” meddai.

“Yn syml iawn, mae’n warthus fod y prif weinidog, ar ôl sefyll ar risiau Downing Street yn 2019 ac addo trwsio’r argyfwng gofal cymdeithasol ‘unwaith ac am byth’ yn camu’n ôl ar yr addewid hwnnw.

“Mae torri addewid Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi dyletswydd ar y Llywodraeth Lafur newydd yng Nghaerdydd i weithredu ar frys.

“Bydd y grŵp Plaid Cymru gwych newydd yn y Senedd yn dal Llywodraeth Cymru i’r tân gerfydd eu traed ar eu haddewid i ddiwygio gofal cymdeithasol.

“Allwn ni ddim aros i Loegr ddim mwy – mae’n hi’n bryd rŵan i ni weithredu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol i Gymru, yn rhad ac am ddim pan fo’i angen, fel a gafodd ei gynnig gan Blaid Cymru.”

Prif addewidion yr araith

Dyma grynodeb o’r addewidion yn yr Araith:

  • Bil Iechyd a Gofal i osod y seiliau ar gyfer system iechyd a gofal mwy atebol wrth weithredu ar Gynllun Tymor Hir y Gwasanaeth Iechyd
  • Bil Asiantaeth Ymchwil ac Arloesi Pellach i gefnogi arianu prosiectau ymchwil risg uchel
  • Bil Rheilffordd Cyflym Iawn (HS2) i roi mwy o bwerau i adeiladu a gweithredu cam nesa’r prosiect yng ngogledd-orllewin Lloegr
  • Bil Isadeiledd Telegyfathrebu er mwyn ymestyn signal symudol 5G a band llydan cyflym iawn, a gwarchod rhag ymosodiadau seibr
  • Bil Sgiliau ac Addysg ôl-16 i gynnig sicrwydd sgiliau am oes ar gyfer mynediad i addysg a hyforddiant fel rhan o’r adferiad ôl-Covid
  • Bil Rheoli Cymhorthdal i weithredu cynllun Prydeinig ar ôl i gymorth y wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ddod i ben
  • Bil Caffael i sicrhau bod caffael cyhoeddus yn digwydd yn gynt ac mewn ffordd fwy syml a thryloyw, gyda phwyslais ar werth am arian
  • Sefydlu porthladdoedd rhydd a chymorth i weithwyr fel rhan o’r Bil Cyfraniadau at Yswiriant Gwladol
  • Bil Cynllunio, sydd wedi bod yn amhoblogaidd ymhlith aelodau meinciau cefn, fel ffordd o adeiladu tai ac isadeiledd gan gynnwys ysgolion ac ysbytai
  • Bil Diwygio Prydles (Rhent Tir) i fynd i’r afael ag anghysondeb ynghylch rhent tir ar gyfer deiliaid prydles y dyfodol
  • Bil Diogelwch Adeiladau i weithredu argymhellion diogelwch a sefydlu rheoleiddiwr yn dilyn trychineb Grenfell
  • Datgloi oddeutu £800m ar gyfer mentrau cymdeithasol ac amgylcheddol fel rhan o’r Bil Asedau Segur
  • Bil Elusennau i leihau biwrocratiaeth ddiangen er mwyn rhoi hwb i’r sector gwirfodol
  • Targedau cyfreithlon newydd i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd fel rhan o Fil yr Amgylchedd
  • Synhwyredd anifeiliaid i gael ei gydnabod fel rhan o’r Bil Lles Anifeiliaid
  • Bil Anifeiliaid wedi’u Cadw yn mynd i’r afael â chreulondeb a gwella safonau i anifeiliaid caeth, lleihau smyglo cŵn bach a rhoi’r gorau i’r arfer o gadw primatiaid (mwncïod a.y.b.) fel anifeiliaid anwes
  • Gwahardd mewnforio cofanrhegion hela anifeiliaid prin fel rhan o’r Bil Anifeiliaid Tramor
  • Cyflwyno cardiau adnabod er mwyn pleidleisio fel rhan o’r Bil Gonestrwydd Etholiadol
  • Bil Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddfeydd Barnwrol i sicrhau cydraddoldeb i’r holl aelodau
  • Rhyddid barn ar gampysau prifysgolion a sefydliadau academaidd fel rhan o’r Bil Addysg Uwch (Rhyddid Barn)
  • Yn ddibynnol ar ymgynghoriad, bydd y Bil Adolygiadau Barnwrol yn ceisio atal y farnwriaeth rhag cael eu tynnu i mewn i ddadleuon gwleidyddol
  • Diddymu’r Ddeddf Seneddau Tymor Sefydlog gan roi’r grym i’r prif weinidog alw etholiad cyffredinol yn unol â’r Bil Diddymu a Galw’r Senedd
  • Cytundeb Dull Newydd ar gyfer Degawd Newydd fel rhan o’r Bil Gogledd Iwerddon (Gweinidogion, Etholiadau a Deisebau)
  • Bil Plismona, Troseddau, Dedfrydu a’r Llysoedd – deddfwriaeth a gafodd ei rhoi o’r neilltu adeg y protestiadau diweddar
  • Bil Cymwysterau Proffesiynol i roi’r hawl i reoleiddwyr y Deyrnas Unedig geisio cytundebau â gwledydd tramor i gydnabod cymwysterau – deddfwriaeth sy’n dychwelyd i San Steffan o’r Undeb Ewropeaidd yw hon
  • Bil Drafft Dioddefwyr i roi hawliau newydd yn unol â chod newydd
  • Mesurau i weddnewid y drefn ar gyfer ceiswyr lloches fel rhan o’r Ddeddfwriaeth Cynllun Newydd ar gyfer Mewnfudo er mwyn atal teithiau peryglus i’r Deyrnas Unedig
  • Deddfwriaeth i warchod defnyddwyr y rhyngrwyd a gwneud Ofcom yn rheoleiddiwr diogelwch yn y Bil Drafft Diogelwch Ar-lein
  • Mwy o warchodaeth i aelodau’r lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd fel rhan o’r Bil Lluoedd Arfog
  • Bil newydd i fynd i’r afael â diogelwch cyflenwadau olew a thanwydd
  • Bil Bygythiadau Gwrth-wladwriaeth er mwyn i asiantaethau gweithredu’r gyfraith a’r gwasanaethau diogelwch gael mwy o adnoddau i fynd i’r afael ag ymddygiad yn erbyn y Wladwriaeth
  • Bil (Diogelwch) Telegyfathrebu er mwyn gwarchod rhag gwerthwyr cyfathrebu risg uchel fel Huawei