Mae Steffan Alun yn dweud pe bai’r bennod ddadleuol o Have I Got News For You oedd yn lladd ar yr enw Cymraeg Yr Wyddfa yn dasg ar y gyfres The Apprentice, y byddai pawb wedi methu.
Wrth siarad â golwg360, mae’r digrifwr o Abertawe’n ceisio dadansoddi ble’r aeth y ‘dasg’ o’i le a phwy oedd ar fai – ac mae’n bendant ei farn mai’r cynhyrchwyr, ac nid y gwesteion, ddylai ysgwyddo’r cyfrifoldeb.
Daw hyn ar ôl i’r BBC amddiffyn y rhaglen wrth ymateb yr wythnos hon.
Y cwestiwn yn y bennod bythefnos yn ôl gan y cyflwynydd Alexander Armstrong i’r panelwyr – Ian Hislop, Paul Merton, Kirsty Wark a Joe Lycett – oedd “beth allai fod yn newid ei enw cyn bo hir?”
Cynigiodd y capten Merton yr ateb cywir, Yr Wyddfa, cyn i’r newyddiadurwraig Wark ychwanegu y byddai’n cael ei alw’n “zurru-buh” – ymhlith synnau eraill.
Aeth y cyflwynydd yn ei flaen i egluro bod cynnig wedi’i gyflwyno i ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig, ac fe ymddangosodd ‘Yr Wyddfa’ ar y sgrîn heb iddo geisio ei ynganu.
Cynigiodd Ian Hislop yr ynganiad cywir gan egluro ei fod e wedi cael ei eni yng Nghymru.
“Disgusting these white lefties mean we can’t deadname a mountain now,” meddai Lycett wedyn, cyn ychwanegu, “Sorry, I’m trying to add a bit of BBC…” a Merton yn ychwanegu’r gair “racism”.
Wrth grynhoi’r drafodaeth, ychwanegodd y cyflwynydd “Wales’ highest mountain Snowdon may soon only be called by its Welsh name. I believe the correct pronunciation of the mountain – I’m going to have a go at it, good luck… Snowdon.”
Wrth roi mwy o gyd-destun, eglura wedyn, “This is part of a trend to reclaim traditional Welsh names that have been Anglicised. For instance, Councillor John Pughe Roberts said that Hellfire Pass should be more accurately known as Bull-head Groes [Bwlch y Groes]. Or even more accurately, the A363.”
Pwy ddywedodd beth?
Yn ôl Steffan Alun, mae mwy o bwysau ar ddigrifwyr i gynnal y comedi ar raglenni panel fel Have I Got News For You sy’n gymysgedd o ddigrifwyr ac enwogion eraill, na rhaglenni eraill fel Mock the Week lle mae’r holl banelwyr yn ddigrifwyr.
“Roedd gyda ti Joe Lycett ac roedd gyda ti Paul Merton, ond wedyn mae yna ddisgwyl bod pawb arall, i ryw raddau, yn bod yn ddoniol er taw nid dyna eu gwaith nhw,” meddai.
“Felly fi yn credu bo fi’n beirniadu’r rhaglen yn eitha’ gwahanol i’r ffordd fydden i’n beirniadu rhaglen fel Mock the Week, lle mae pawb yn arbenigo mewn creu, sgwennu a pherfformio comedi.”
- Kirsty Wark
Yn ôl Steffan, roedd y sylw gan Kirsty Wark ymhlith y gwaetha’.
“Ei sylw hi sy’n dod gynta’, a beth yw y sylw? Yr un hen jôc! ‘What’s the Welsh word for Snowdon? Zurru-buh!’ Snooze! Dim diddordeb.
“Ond nid digrifwraig yw hi. Dwi ddim yn hoffi’r jôc ond sai’n teimlo bo fi eisiau mynd â Kirsty Wark i’r gilotîn chwaith!
“Fi jyst yn teimlo, ocê jôc ddiog, ddyle hi ddim bod wedi gwneud y cut. Dyw e ddim yn ddigon da, mae’n jôc sâl.”
- Joe Lycett
Wrth droi ei sylw at Joe Lycett, mae gan Steffan fwy o gymdeimlad â’i gyd-ddigrifwr, oedd wedi llwyddo i wneud gwaith y digrifwr a gweld ochr ddoniol y sefyllfa ’roedd e ynddi.
“Sdim problem o gwbl gyda fi gyda beth ddywedodd Joe Lycett,” meddai.
“Fi’n credu wnaeth e ffeindio ffordd o drafod y pwnc mewn ffordd oedd ddim yn sarhaus a ddim yn ddiflas.
“Beth mae e’n gwneud, yn fwriadol, yw trio bod yn eironig. Ti’n gallu gweld y cogs yn troi, a ti’n gweld ‘A! Dyna beth yw comedi!’
“Mae comedi bron yn gêm, yn enwedig gyda rhywbeth fel Have I Got News For You.
“Mae e wedi cael ei roi mewn sefyllfa lle mai’r stori i’w thrafod yw stori am y Gymraeg ac am enwau llefydd Cymraeg. Mae’n anodd gwneud hynny heb fod yn sarhaus ond, i fi, mae Joe Lycett yn llwyddo.
“Mae e’n llwyddo i chwarae’r gêm drwy ddweud bod e’n mynd i drio meddwl am rywbeth asgell dde i’w ddweud a dyw e ddim yn gwneud hwyl am ben yr iaith. Dyw e ddim yn gwatwar, nid targed jôcs Joe Lycett yw y Gymraeg ei hunan.
“Os rhywbeth, targed Joe Lycett yw’r BBC. Mae yna feirniadaeth o’r ffordd mae’r BBC yn gwneud comedi o fewn y jôc yna, sydd yn jôc mwy soffistedig a diddorol.
“Felly rwyt ti yn gweld y gwahaniaeth pan wyt ti’n gweld rhywun sy’n arbenigo mewn jôcs.”
- Y cyflwynydd a’r panelwyr nad ydyn nhw’n ddigrifwyr
Dyw Steffan ddim chwaith yn gweld bai ar Ian Hislop, panelwr nad yw’n ddigrifwr, ac mae’n canmol ei ymdrech i ynganu’r Wyddfa yn gywir, a does dim bai ar y cyflwynydd Alexander Armstrong chwaith, meddai, gan ddweud bod yntau hefyd mewn sefyllfa anodd.
“Sai’n feirniadol o Alexander Armstrong, sydd jyst yn gwneud job cyflwyno. Ond mae’r jôc lle mae e’n dweud “Let me see if I can pronounce this right, S-n-o-w-d-o-n… Argh!
“Rhywun ar dîm yn rhywle sydd wedi sgwennu’r jôc yna. Mae yna dîm yn sgwennu deunydd Have I Got News For You a lot ohonyn nhw yn ddigrifwyr proffesiynol.”
Felly pwy sydd ar fai?
“Lle mae’r bai mwya’? I fi, y bai mwya’ yw’r ochr gynhyrchu,” meddai wedyn, wrth geisio penderfynu pwy sydd ar fai os nad y digrifwyr na’r panelwyr.
“Dyma be’ fi’n teimlo am yr holl beth. Mae dwy neu dair jôc oedd jyst yn ddiflas ac yn wael a dylen nhw ddim bod wedi cael eu darlledu, dylen nhw ddim bod wedi diweddu lan yn y rhaglen orffenedig.
“Sai’n lico’r deunydd ei hunan ond y peth gyda rhaglen fel Have I Got News For You yw fod e’n recordio am oriau ac mae lot o bwysau ar y perfformwyr i fod mor ddoniol a diddorol â phosib.
“Mae lot o bwysau ar y perfformwyr i gynhyrchu jôcs i lenwi’r rhaglen i sichrau bod yna ddigon o ddeunydd i gyrraedd y rhaglen orffenedig.
“Felly fi yn teimlo bod yna wastad risg os wyt ti’n eistedd am ddigon hir bo ti’n mynd i wneud jôcs dwyt ti ddim yn browd ohonyn nhw, jôcs dwyt ti ddim yn hapus gyda nhw, jôcs na ddylid bod wedi cael eu gwneud.
“Felly sai’n credu bo fi’n mynd i fod yn rhy feirniadol o unrhyw un sy’ yn y sefyllfa yna achos nid nhw, ar ddiwedd y dydd, sy’n penderfynu os yw jôcs yn cyrraedd y rhaglen orffenedig neu beidio.
“Ddylai jôc Kirsty Wark yn sicr ddim bod wedi bod yn y rhaglen.
“Fi’n fwy beirniadol o jôcs Alexander Armstrong achos mae’r rheiny wedi cael eu sgwennu mewn stafell, mae awduron wedi sgwennu’r rheiny ac maen nhw cael eu dewis ar gyfer y sgript.”
Y Cymry’n destun sbort unwaith eto?
Yn ôl Steffan, nid y jôcs eu hunain sydd wedi arwain at yr ymateb chwyrn i’r rhaglen ond, yn hytrach, yr hyn maen nhw’n ei gynrychioli.
“Dyn ni ddim yn brifo achos dau neu dri jôc achos, ar ddiwedd y dydd, beth yw’r ots?” meddai.
“Y rheswm dyn ni ddim yn lico fe, y rheswm bod e’n taro rhywun mor negyddol yw oherwydd mae e’n arwydd cyffredinol o ddiffyg parch a dealltwriaeth am y Gymraeg.
“Roedd gyda ti stori am enwau llefydd Cymraeg a dyw’r ymchwil ddim wedi cael ei wneud i ddarparu sut mae dweud yr enwau ar gerdyn y cyflwynydd. Mae’r cyflwynydd fod dyfalu.”
Beth yw’r datrysiad, felly?
Mae Steffan yn dweud y gallai darlledu mwy o gynnwys am Gymru, y Gymraeg ac enwau llefydd fel bod gwylwyr yn dod yn fwy cyfarwydd â nhw helpu’r sefyllfa yn y pen draw, ac arwain at lai o jôcs dilornus.
“Beth dyn ni ddim yn gweld ar y teledu yn aml iawn yw’r Gymraeg y tu fa’s i’r cyfryngau Cymraeg. Mae hwn yn rhywbeth fi wedi teimlo ers sbel bellach,” meddai.
“Mae’n wych fod S4C gyda ni, ffantastig, ond mae e bron wedi creu rhyw sefyll lle, er bod yna ddeunydd am yr iaith yn cael ei gynhyrchu ym Mhrydain, mae e i gyd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru a dim ond yn cael ei ddangos i siaradwyr Cymraeg.
“Mae’n iaith frodorol, mae’n iaith sy’n bodoli. Mae’n rhan o hanes ac o fywyd ac o realiti Prydain, a’r rhan fwyaf llethol o’r wlad, dyn nhw byth yn clywed yr iaith oni bai bo nhw’n clywed jôcs gwan mewn pennod Have I Got News For You. Hwnna sy’n rong.”
Ymateb y BBC
Wrth ymateb i’r feirniadaeth, mae’r BBC wedi dweud nad oedd y sylwadau “wedi’u bwriadu i’w cymryd o ddifri”, fod comedi’n “faes gwrthrychol iawn” ac “nad sarhau oedd y nod”.
“Wrth gwrs taw jôcs yw e!” meddai Steffan wrth ymateb i’r ymateb. “Dyw hwnna ddim yn amddiffyniad.
“Sai’n credu bod unrhyw un yn gwylio hwn a ddim yn sylweddoli taw jôcs ydyn nhw. Dyw pobol ddim yn lico’r jôcs.
“Fi yn credu, ar ddiwedd y dydd, ’tasai hon yn dasg ar The Apprentice a bo ti’n gorfod dewis jôcs, byddai pawb wedi methu’r dasg, ond pwy sydd ar fai? Lle mae’r bai mwya’? I fi, y bai mwya’ yw’r ochr gynhyrchu.”
Mwy am y stori hon ar golwg360:
Storm o brotest wedi i banelwyr ddwyn amharch ar y Gymraeg drwy fethu ynganu enw’r Wyddfa
Have I Got News For You: y BBC yn gwrthod dweud a fu cwynion am sarhau’r Gymraeg
❝ Teg edrych tuag adref
❝ Moron ar quiz show yn gwneud i fi becso am Yr Wyddfa
❝ Melltith Seisnigo ein henwau cynhenid