Y peth rhyfedd am yr Wyddfa a’i chriw ydi, ohonynt oll, taw’r unig un gydag enw Saesneg ydi’r Wyddfa ei hun. Yn wir, mae hi’n eithaf unigryw yn hyn o beth. Yn wahanol i nifer o’n henwau llefydd, mae mynyddoedd Cymru’n tueddu i fod wedi cadw eu henwau Cymraeg yn ddi-gyfieithiad.