Difyr iawn oedd gwylio darpar arweinwyr ein cenedl yn trafod eu gweledigaeth ar gyfer ein dyfodol ar y BBC Wales Leaders’ Debate. Yn wir, erbyn diwedd y rhaglen roeddwn wedi ecseitio’n lân gan berfformiadau disglair ac ysbrydoledig y pum gwleidydd.

Er hynny, braidd yn gwrtais oedd y cyfan, wrth i bawb gytuno ar gymaint o bolisïau (mwy o staff i’r NHS ac ati). Prin iawn oedd unrhyw ddadlau brwd ac, yn wir, fe’u gwelsom yn canmol ei gilydd ar adegau.