Mae Aelodau Senedd yr Alban wedi ethol Nicola Sturgeon o’r newydd i fod yn brif weinidog y wlad.

Ar ôl cael ei hethol eto, mae arweinydd yr SNP yn dadlau bod yna “fandad clir” ar gyfer cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth, gan addo “gweithredu ar y mandad yn gyfrifol”, a “dim ond pan fydd argyfwng Covid wedi mynd heibio”.

Dywed Nicola Sturgeon ei bod hi eisiau arwain y wlad “at amseroedd gwell a disgleiriach”, gan ddweud bod adfer wedi’r pandemig yn “flaenoriaeth”.

Fe wnaeth Nicola Sturgeon guro Douglas Ross, arweinydd y Ceidwadwyr, a Willie Rennie, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Enillodd hi 64 o bleidleisiau, Douglas Ross 31, Willie Rennie pedair, ac fe wnaeth 28 Aelod o’r Senedd atal eu pleidlais.

“Dim braint mwy”

Yn ei haraith fer cyn y bleidlais, dywedodd Nicola Sturgeon ei bod hi wedi “ceisio gweithio dros y siambr drwy gydol yr argyfwng Covid”.

“Pe bawn yn cael fy ail-enwebu heddiw, byddaf yn parhau i wneud hynny wrth i ni weithredu ar raglen sbarduno adferiad,” meddai.

“Bydd honno’n rhaglen gyda’r Gwasanaeth Iechyd, yr economi, a swyddi wrth ei gwraidd, a byddwn ni’n cymryd ymagwedd gynhwysol tuag at y drafodaeth fod rhaid i bob gwlad gael dweud am sut y gallwn ni adeiladu’r dyfodol gorau posib wedi’r pandemig.”

Ar ôl cael ei hethol, dywedodd “nad oes braint fwy na chael fy ethol yn brif weinidog ein gwlad”.

“Dw i’n addo y byddaf yn cyflawni fy holl ddyletswyddau hyd orau fy ngallu,” meddai wedyn.

Dywed Nicola Sturgeon y bydd hi’n gwneud “popeth” gyda phwerau ei swydd i sicrhau mai’r wlad yw’r lle gorau posib i fyw, gweithio, a thyfu fyny ynddo.

Annibyniaeth

Wrth gyfeirio at annibyniaeth i’r Alban, fe wnaeth Nicola Sturgeon gydnabod fod y farn “yn gytbwys”.

Dywedodd na ddylid anwybyddu barn cenedlaetholwyr, ac na ddylai Albanwyr sydd o blaid yr undeb “deimlo fel eich bod chi’n cael eu gorfodi tuag at ganlyniad nad ydych chi’n wedi cael eich perswadio ohono”.

“Mae ein rhagolygon economaidd yn dibynnu ar ddenu mwy o bobol i fyw a gweithio yma yn yr Alban, ond eto ddydd Iau, yn Stryd Kenmure yn fy etholaeth, fe wnaeth swyddogion mewnfudo geisio gorfodi dau unigolyn allan yn erbyn dymuniad eu cymuned,” meddai.

“Gydag annibyniaeth, byddai’r penderfyniadau sy’n llunio ein dyfodol yn ein dwylo ni.”

Ers i’r SNP ennill y nifer fwyaf o seddi yn Holyrood bythefnos yn ôl, mae’r gwrthbleidiau wedi bod yn ei hannog i gydbwyso’r ymgyrch dros annibyniaeth gyda’r adferiad Covid-19, ac maen nhw wedi ategu’r neges honno.

Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP

Nicola Sturgeon yn dweud fod ail refferendwm annibyniaeth yn sicrwydd

Mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud wrth Boris Johnson fod cynnal refferendwm “yn fater o pryd – nid os”