Mae pedwar cyngor cymuned wedi cael eu beirniadu am wariant anghyfreithlon a threfniadau llywodraethu annigonol.
Cafodd cynghorau Cymuned Llanarmon, Magwyr gyda Gwndy, Llanpumsaint a Sili Larnog eu beirniadu gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Yn ôl yr Archwilydd, mae’r canfyddiadau yn dangos yr angen gweithredu ar frys mewn cynghorau cymuned i fynd i’r afael â gweithgarwch anghyfreithlon a llywodraethu gwael.
Daeth i’r amlwg bod diffygion sylweddol o ran rheolaeth ariannol a threfniadau llywodraethu mewnol yn y pedwar cyngor.
Arweiniodd hyn at wariant anghyfreithlon o dros £86,000 mewn un cyngor, a chostau archwilio uwch, yn ôl yr adroddiad.
Magwyr a Gwndy
Yn ystod 2018, fe wnaeth perthynas aelodau Cyngor Cymuned Magwyr a Gwndy chwerwi gan effeithio ar weithredoedd y cyngor o ran gwneud penderfyniad, rheolaeth ariannol a rheolaeth fewnol.
Methodd y Cyngor â dilyn eu rheolau eu hunain ar gyfer cael gafael ar wasanaethau, gan arwain at wariant anghyfreithlon o dros £62,793.
Yn ôl yr adroddiad, mae eu prosesau ar gyfer penodi staff “yn wael”, sydd wedi arwain at wariant anghyfreithlon o £22,337.
Llanarmon
Mae gwendidau systemig o ran llywodraethu a rheolaeth fewnol yng Nghyngor Cymuned Llanarmon, Powys, meddai’r Archwilydd Cyffredinol.
Daeth i’r canlyniad bod y cyngor wedi gweithredu’n anghyfreithlon wrth benodi ei glerc, cyfethol aelodau, dyfarnu grantiau a chontractio ar gyfer cyflenwi gwasanaethau.
Ynghyd â hynny, roedd y Cyngor wedi methu â chydymffurfio â gofynion deddfwriaethol amrywiol gan gynnwys y rhai’n ymwneud â pharatoi, cymeradwyo a chyflwyno ei gyfrifon blynyddol ar gyfer yr archwiliad.
Llanpumsaint
Mae’r gofynion ar gyfer y cyfrifon blynyddol ac archwiliad yr Archwilydd Cyffredinol yr un fath i bob cyngor cymuned, ond methodd Cyngor Cymuned Llanpumsaint yn Sir Gaerfyrddin â chyflwyno cyfrifon i’w harchwilio.
Mae’r diffyg cydymffurfio’n cynnwys Clerc y Cyngor yn gwrthod cyflawni ei gyfrifoldebau a rhwystro’r broses archwilio, meddai’r adroddiad.
O ganlyniad, cynyddodd cost yr archwiliad yn sylweddol.
Sili a Larnog
Yn ôl yr adroddiad, mae hanes hir o wrthdaro rhwng aelodau ar Gyngor Cymuned Sili a Larnog ym Mro Morgannwg, ac yn ystod 2018-19 methodd y Cyngor â chymryd camau digonol i fodloni eu hun bod ei drefniadau llywodraethau’n effeithiol.
Mae’r adroddiadau’n argymell sawl peth i’r cynghorau gan gynnwys adolygu rheoliadau ariannol, trefniadau llywodraethu a recriwtio a chyflogaeth.
Maen nhw hefyd yn dweud y dylid adolygu ymddygiad aelodau, a’r ffordd y mae taliadau’n cael eu datgelu.
“Tanseilio ffydd”
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, bod y materion yma yn tynnu sylw at “wendidau difrifol yn y Cynghorau Cymuned”.
“Dim ond rhai o’r problemau mewn pedwar cyngor cymuned yr wyf wedi dod o hyd iddynt yw’r diffygion sylweddol mewn llywodraethu, rheolaeth ariannol, tryloywder archwilio a threfniadau annigonol i sicrhau gwerth am arian,” meddai Adrian Crompton.
“Mae’r materion hyn yn tynnu sylw at wendidau difrifol yn y Cynghorau Cymuned, yn tanseilio ffydd y cyhoedd ac wedi arwain at wastraff arian cyhoeddus.
“Galwaf ar bob cyngor Tref a Chymuned i gymryd sylw a dysgu o’r gwersi pwysig yn yr adroddiadau hyn fel bod cymunedau yng Nghymru yn cael y gwasanaethau a’r sicrwydd y maen nhw yn briodol yn eu haeddu.”