Mae myfyrwyr newydd yn cael eu rhybuddio ar ddechrau Wythnos y Glas i beidio â mynd i nofio ar ôl bod yn yfed alcohol.
Daw’r rhybudd gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar ddechrau Wythnos y Glas, sef yr wythnos pan fydd myfyrwyr newydd yn ymgyfarwyddo â bod yn fyfyriwr prifysgol.
I gyd-fynd â’r wythnos, mae ymgyrch Peidiwch ag Yfed a Boddi yn cael ei rhedeg gan gymdeithas RLSS UK, cymdeithas er achub bywydau.
Maen nhw’n annog myfyrwyr i:
- wneud dewisiadau a phenderfyniadau doeth dan ddylanwad alcohol
- cadw draw o’r dŵr ar ôl yfed alcohol
- bod yn gyfrifol am ffrindiau sydd wedi yfed gormod o alcohol, a pheidio â gadael iddyn nhw gerdded adref heb gwmni
Yn ôl arolwg o’r achosion o foddi yn y Deyrnas Unedig, roedd 62% o’r rheiny rhwng 16 a 25 oed gollodd eu bywydau’n fyfyrwyr.
‘Cadwch draw o’r dŵr’
“Yn drasig iawn, mae pobol yn marw bob blwyddyn gan eu bod nhw wedi mynd i’r dŵr dan ddylanwad alcohol, weithiau’n fwriadol neu, yn amlach, trwy ddamwain lwyr,” meddai Bethan Gill, Arweinydd Diogelwch Cymunedol Canolog gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
“Gall alcohol a chyffuriau darfu’n ddifrifol ar eich gallu i oroesi mewn dŵr.
“Mae dŵr oer yn lladd, a gall gymryd bywydau’r nofiwr cryfaf hyd yn oed os ydych chi wedi cael diod.
“Cadwch draw o’r dŵr.
“Mae’r rhan fwyaf o bobol sy’n boddi dan ddylanwad wedi gwneud hynny drwy gwympo i mewn wrth gerdded ar eu pennau eu hunain wrth ymyl y dŵr.
“Rydyn ni’n gwybod fod pawb yn edrych ymlaen at fwynhau nosweithiau allan adeg yma’r flwyddyn, ac rydym yn gofyn i ‘angylion gwarcheidiol’ sefyll i fyny a chael eu cyfrif.
“Os yw rhywun yn gadael eich tŷ neu lety myfyrwyr dan ddylanwad, sicrhewch fod ganddyn nhw lwybr diogel i ddod adref.”
Yr ymgyrch
Cafodd yr ymgyrch ei sefydlu yn 2014, yn dilyn nifer o achosion o foddi ymhlith myfyrwyr.
Yn ôl yr ymgyrch, mae nifer yr achosion yn cynyddu yn ystod mis Medi a hefyd ym mis Rhagfyr wrth i bobol ddathlu’r Nadolig.
Eleni, mae pwyslais yr ymgyrch ar ddigwyddiadau a damweiniau y gellid eu hosgoi.
Mae’n annog pobol i:
- fod yn ddiogel
- cynllunio llwybr diogel i ffwrdd o’r dŵr
- edrych ar ôl pobol eraill