Mae Michael Hogan, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, wedi ymddeol o griced.
Daw ei ymddeoliad ar ôl un tymor gyda Chaint.
Cyhoeddodd ei ymddeoliad o Forgannwg ar ddiwedd tymor 2022 yn wreiddiol, cyn gwneud tro pedol a chyhoeddi ei fod yn ymuno â Chaint.
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd fod heddiw’n “eiliad chwerwfelys”, ond ei fod e wedi penderfynu ymddeol “ar ôl cryn feddwl a myfyrio” a sylweddoli bod yna “ychydig bobol sydd fy angen i’n fwy na’r gamp”.
Yn ei gyhoeddiad, mae’n diolch i’r byd criced am “ddysgu cymaint” iddo amdano fe ei hun dros gyfnod o bymtheg mlynedd.
Mae e hefyd wedi diolch i’w holl dimau, gan gynnwys Morgannwg, a’u cefnogwyr, yn ogystal â’i deulu.
Cipiodd e gyfanswm o 654 o wicedi mewn 274 o gemau i’r sir Gymreig.
‘Braint’
“Mae heddiw’n eiliad chwerwfelys i fi, wrth i fi gyhoeddi fy ymddeoliad o griced proffesiynol,” meddai Michael Hogan yn ei ddatganiad.
“Mae’n benderfyniad [sydd wedi cael ei wneud] ar ôl cryn feddwl a myfyrio dros yr wythnos ddiwethaf.
“Sylweddolais i’n gyflym fod yna rai pobol sydd fy angen i’n fwy na’r gamp, a dw i’n credu bod yr amser wedi dod i hongian yr esgidiau am y tro olaf, a symud ymlaen at bennod nesaf fy mywyd.
“Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i griced. Mae wedi dysgu cymaint i fi amdanaf fi fy hun dros y pymtheg mlynedd diwethaf.
“Mae wedi fy nysgu i am ddisgyblaeth a dyfalbarhad, ac wedi cynnig sawl uchafbwynt emosiynol a gwersi amhrisiadwy ar y cae ac oddi arno.
“Hoffwn ddiolch i’m holl gyd-chwaraewyr a hyfforddwyr am fod yn rhan o’r daith.
“Dw i wedi bod yn freintiedig wrth gael fy hyfforddi gan rai o’r goreuon erioed yn y gamp, a chael chwarae gyda nhw ac yn eu herbyn nhw, a bydd y cyfeillgarwch a’r atgofion sydd gyda fi yn aros gyda fi am byth.
“Rhaid i fi ddiolch i’r arwyr sy’n aml yn dawel, y staff cynorthwyol am fod yn rhan o’r daith anhygoel hon. Mae’n gas gyda fi feddwl am yr holl dâp, lladdwyr poen a’r brechiadau niferus dw i wedi’u cael dros y blynyddoedd, ond doedd dim byd byth yn rhy anodd.
“I’r clybiau dw i wedi bod yn rhan ohonyn nhw – WACA, Morgannwg, Caint ynghyd â’r Hobart Hurricanes a Southern Brave, ac wrth gwrs yr hoelion wyth sy’n dod gyda’r clybiau hyn, y cefnogwyr. Alla i ddim diolch i chi ddigon am y cyfleoedd a’r ymddiriedaeth, yr amynedd ac yn bennaf yr hyder rydych chi wedi’i ddangos ynof fi drwy fy ngalluogi i i chwarae am amser hir.
“Yn olaf ac yn bwysicaf, alla i ddim mynegi ddigon fy ngwerthfawrogiad o’m teulu, yr un cadernid cyson yn ystod y daith hon, y dyddiau a’r wythnosau ac yn fwy diweddar y misoedd dw i wedi’u treulio oddi cartref, a’r gefnogaeth ddiwyro o hyd, y cariad a’r aberthion di-ben-draw i danio fy uchelgais a’m galluogi i ddilyn fy angerdd am griced.
“Dw i o hyd yn ddiolchgar iddyn nhw am sefyll wrth fy ochr yn ystod uchafbwyntiau ac iselfannau fy ngyrfa.
“Wrth gamu i ffwrdd, gobeithio fy mod i wedi cynnig rhyw fath o hapusrwydd i bobol ar adegau gwahanol drwy gydol fy ngyrfa.
“Lle bynnag dw i wedi chwarae, dw i’n teimlo fy mod i wedi rhoi popeth oedd gyda fi, a dw i wedi gwasgu pob diferyn olaf o allu allan o’m corff, a nawr ar ôl sawl anaf, mae fy nghorff yn dweud wrtha i am roi’r gorau i wasgu.
“Ac ar ôl treulio’r wythnos ddiwethaf gyda fy nheulu, dw i’n gwybod lle ydw i am fod nawr.
“Dw i’n dymuno’r gorau i bawb, a gobeithio y down ni ar draws ein gilydd eto.”
Aneurin Donald yn ymuno â Swydd Derby
Yn y cyfamser, mae’r Cymro a chyn-fatiwr Morgannwg Aneurin Donald wedi ymuno’n barhaol â Swydd Derby.
Mae’r chwaraewr 26 oed o Abertawe wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd ar ôl cyfnod llwyddiannus ar fenthyg yn 2023.
Mae e wedi sgorio dros 3,000 o rediadau dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o 31.50 ac wedi taro tri chanred.
Sgoriodd e ddau ganred i Swydd Hampshire eleni wrth iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol Cwpan Metro Bank.
Mae ganddo fe’r canred dwbwl cydradd cyflymaf mewn criced dosbarth cyntaf, gyda’i ymdrech yn 2016 i Forgannwg yn dod oddi ar 123 o belenni yn erbyn Swydd Derby yn Llandrillo yn Rhos.
Mae ei drosglwyddiad yn golygu y bydd gan Swydd Derby ddau Gymro yn y garfan, ar ôl i David Lloyd, cyn-gapten Morgannwg, ymuno â’r sir ddiwedd y tymor hwn.