Mae Rob Page wedi cyhoeddi carfan bêl-droed Cymru i herio Gibraltar nos Fercher nesaf (Hydref 11), a Chroatia bedwar diwrnod yn ddiweddarach (nos Sul, Hydref 15).

Mae Charlie Savage ac Owen Beck wedi’u dewis am y tro cyntaf ar ôl chwarae i’r tîm dan 21, ac mae Luke Harris a Dylan Levitt yn dychwelyd ar ôl bod yn absennol fis diwethaf.

Mae Aaron Ramsey, Brennan Johnson a Morgan Fox wedi’u hanafu, ond mae Regan Poole wedi’i ddewis am y tro cyntaf ers 2019.

Bydd Cymru’n herio Gibraltar ar y Cae Ras a Chroatia yng Nghaerdydd, saith mis ar ôl i Nathan Broadhead rwydo yn y gêm gyfartal 1-1 yn Split.

Carfan Cymru

W Hennessey, D Ward, A Davies, B Davies, J Rodon, T Lockyer, C Mepham, R Poole, B Cabango, N Williams, O Beck, C Roberts, W Burns, E Ampadu, C Savage, J James, D Levitt, J Sheehan, D James, N Broadhead, H Wilson, D Brooks, L Cullen, L Harris, K Moore, T Bradshaw.